![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/56/Iris_pseudacorus_001.jpg/640px-Iris_pseudacorus_001.jpg&w=640&q=50)
Gellesgen gellesg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol lluosflwydd ag iddo bỳlb ydy Gellesgen gellesg sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Iridaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Iris pseudacorus a'r enw Saesneg yw Yellow iris.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Iris Felen, Baner y Gors, Camined, Camined Melyn y Dŵr, Camined y Dŵr, Cellhesg, Elestr, Enfys y Gors, Gelaets, Gelyst, Gellesgen, Gellesgen Gyffredin a Gellhesgen.
Ffeithiau sydyn Iris pseudacorus, Dosbarthiad gwyddonol ...
Iris pseudacorus | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Iridaceae |
Genws: | Iris (planhigyn) |
Rhywogaeth: | I. pseudacorus |
Enw deuenwol | |
Iris pseudacorus Carl Linnaeus | |
Cau
Perthnasau agos iddo yw'r Iris, ffrisia, Blodyn-y-cleddyf a saffrwm. Mae ei ddail yn debyg i laswellt, gyda phlyg fertig drwy'r canol. Oherwydd y bỳlb, mae'n medru goddef tân a thymheredd isel.