Ioga Jain
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae ioga Jain neu myfyrdod Jain (dhyāna) (neu yn Sansgrit: Sāmāyika) wedi bod yn arfer canolog o ysbrydolrwydd mewn Jainiaeth ynghyd â'r Tair Tlws.[1] Cred y Jainydd mai dim ond trwy fyfyrio neu Shukla Dhyana y gellir cyflawni y cyflwr rhydd perffaith.[2] Yn ôl Sagarmal Jain, mae'n anelu at gyrraedd ac aros mewn cyflwr o "ymwybyddiaeth neu hunan-wybodaeth pur."[3] Ystyrir myfyrdod fel yr ymgais i wireddu'r 'hunan' mewnol, gan fynd â'r enaid i ryddid llwyr, y tu hwnt i unrhyw chwant, gwrthdaro neu ymlyniad at bethau materol.[4]
Cerflun o Mahavira mewn myfyrdod, Ahinsa Sthal, Mehrauli, Delhi Newydd | |
Math | Ioga, Jainiaeth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir categoreiddio myfyrdod Jain yn fras i'r addawol ( Dharmya Dhyana a Shukla Dhyana ) a'r anaddawol (Artta a Raudra Dhyana) [5] Yn yr 20g datblygwyd a lledaenwyd ffurfiau modern newydd o Jain Dhyana, yn bennaf gan fynachod a lleygwyr Śvētāmbara Jainism.
Cyfeirir at fyfyrdod Jain hefyd fel Sāmāyika sy'n cael ei wneud am 48 munud mewn heddwch a distawrwydd.[6] Mae ffurf o hyn sy'n cynnwys cydran gref o astudio'r ysgrythur ( Svādhyāya) yn cael ei hyrwyddo'n bennaf gan draddodiad Digambara o Jainiaeth.[7] Mae'r gair Sāmāyika yn golygu bod yn y foment o amser real parhaus.[8] Dysgir hyn heddiw o fewn ioga. Y weithred hon o fod yn ymwybodol o adnewyddiad parhaus y bydysawd yn gyffredinol ac adnewyddiad rhywun ei hun o'r bod byw (Jiva) yn benodol yw'r cam cyntaf hanfodol yn y daith tuag at uniaethu â gwir natur rhywun, sef yr Atman. Mae hefyd yn ddull y gall rhywun ddatblygu ei gynghanedd mewnol a pharch tuag at fodau dynol, anifeiliaid eraill a Natur.