Ibrahim Rugova
Llenor a Gwleidydd Albania Cosofo / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Ibrahim Rugova, enw cyntaf Pjetër Rugova (Cerrcë, 2 Rhagfyr, 1944 - Prishtina, 21 Ionawr, 2006), yn wleidydd a llenor o genedl Albania Cosofo. Ef oedd llywydd cyntaf Gweriniaeth Albaneg Cosofo cydnabyddedig (Republika Shqiptare a Kosovës), roedd yn un o brif arweinwyr y frwydr dros annibyniaeth Albaniaid Cosofo oddi ar yr hen Iwgoslafia. Roedd yn lladmerydd dros y dull di-drais o ennill hawliau ac annibyniaeth.
Ibrahim Rugova | |
---|---|
![]() | |
Arlywydd Cosofo | |
Yn ei swydd 4 Mwrth 2002 – 21 Ionawr 2006 | |
Rhagflaenwyd gan | None |
Dilynwyd gan | Fatmir Sejdiu |
Arweinydd Cynghrair Ddemocrataidd Cosofo | |
Yn ei swydd 23 Rhagfyr 1989 – 21 Ionawr 2006 | |
Rhagflaenwyd gan | New Office |
Dilynwyd gan | Fatmir Sejdiu |
Manylion personol | |
Ganwyd | (1944-12-02)2 Rhagfyr 1944 Cerrcë, Iwgoslafia, bellach Cosofo annibynnol |
Bu farw | 21 Ionawr 2006(2006-01-21) (61 oed) Pristina, Kosovo |
Plaid wleidyddol | Cynghrair Ddemocrataidd Cosofo (1989–2006) |
Priod | Fana Rugova |
Plant | Mendim Rugova Ukë Rugova Teuta Rugova |
Gwobrau | Arwr Cosofo |
Llofnod | ![]() |
Rhoddodd bwys mawr ar etifeddiaeth hynafol tiriogaeth Dardania (teyrnas gogledd Albania yn dalaith Rufeinig, yna-Bysantaidd, bu wedyn dan reolaeth Ymerodraeth Otomanaidd, yna cymhathwyd i Iwgoslafi am y rhan fwyaf o 20g heblaw am gyfnod byr unedig gydag Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd) i gryfhau hunaniaeth y wlad, uno gyda Albania ac i hyrwyddo ei bolisi o gysylltiadau agosach gyda'r Gorllewin.
Diolch i'w rôl yn hanes Cosofo, enillodd Rugova y llysenw "Tad y Genedl" a "Gandhi y Balcanau", a ddyfarnwyd, ymhlith eraill, Gwobr Sakharov am rhyddid meddwl ac farwolaeth datgan "Arwr o Kosovo". Yr Albaniad arall a enillodd y ddau wobr yma oedd Adem Demaçi.