![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ae/Iberian_map_europe.svg/langcy-640px-Iberian_map_europe.svg.png&w=640&q=50)
Penrhyn Iberia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Penrhyn mawr yn ne-orllewin Ewrop yw Penrhyn Iberia neu Iberia. Mae'n cynnwys tiriogaeth Portiwgal a Sbaen a hefyd Andorra a Gibraltar. Gorwedd ym mhen de-orllewinol cyfandir Ewrop, rhwng y Môr Canoldir i'r dwyrain a Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a'r gogledd (Bae Biscay). I'r de mae Culfor Gibraltar yn gwahanu penrhyn Iberia a gogledd-orllewin Affrica (Moroco a'r Maghreb). Ar y tir mawr mae cadwyn mynyddoedd y Pyreneau yn dynodi'r ffin ddaearyddol ac ecolegol rhwng penrhyn Iberia a gweddill Ewrop yn ogystal â'r ffin wleidyddol rhwng Ffrainc a Sbaen. Mae fflora a ffawna Iberia yn debyg i rai Gogledd Affrica. Mae gan y penrhyn arwynebedd o 593,250 km² (229,054 milltir sgwar).
- Mae Iberia yn ailgyfeirio yma. Am y diriogaeth hynafol yn y Cawcasws gweler Iberia'r Cawcasws.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ae/Iberian_map_europe.svg/640px-Iberian_map_europe.svg.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e0/Iberian_peninsula.jpg/640px-Iberian_peninsula.jpg)