Hwngari Fawr
Hwngari rhwng 1867-1918 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Hwngari Fawr (Hwngareg: Nagy-Magyarország) yw'r enw anffurfiol a roddir ar diriogaeth Hwngari rhwng sefydlu Ymerodraeth ddeuol Awstria Hwngari (1867) a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a ddaeth i ben gyda rhaniad y wlad, wedi'i ffurfioli gan Gytundeb Trianon ym 1920.[1] Cofier, yn ôl mapiau a terminoleg y cyfnod 'Hwngari' yn unig a elwid y tiriogaeth fel ag y gelwir Sbaen yn "Sbaen" heddiw, er bod iddi genhedloedd di-Sbaenaidd o fewn ei ffiniau. Gall hefyd gyfeirio at ail-uno y tiroedd lle mae'r Hwngariaid a siaradwyr Hwngareg yn trigo heddiw - megis ardal y Szekler yn Transylfania ac efallai rhannau o Vojvodina yng ngogledd Serbia - ond nid tiroedd Croatia na Slofacia.