From Wikipedia, the free encyclopedia
O fewn y dull enwi gwyddonol, Homo sapiens (Lladin: "person deallus") yw'r enw rhyngwladol ar fodau dynol, ac a dalfyrir yn aml yn H. sapiens. Bellach, gyda diflaniad y Neanderthal (ac eraill), dim ond y rhywogaeth hon sy'n bodoli heddiw o fewn y genws a elwir yn Homo. Isrywogaeth yw bodau dynol modern (neu bobl modern), a elwir yn wyddonol yn Homo sapiens sapiens.
Homo sapiens Amrediad amseryddol: 0.195–0 Miliwn o fl. CP Pleistosen Canol–Y presennol | |
---|---|
Benyw a gwryw | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Phylum: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Genus: | Homo |
Rhywogaeth: | H. sapiens |
Enw deuenwol | |
Homo sapiens Linnaeus, 1758 | |
Isrywogaeth | |
†Homo sapiens idaltu |
Hynafiaid pobl heddiw, yn ôl llawer, oedd yr Homo sapiens idaltu. Credir fod eu dyfeisgarwch a'u gallu i addasu i amgylchfyd cyfnewidiol wedi arwain iddynt fod y rhywogaeth mwyaf dylanwadol ar wyneb Daear ac felly fe'i nodir fel "pryder lleiaf" ar Restr Goch yr IUCN, sef y rhestr o rywogaethau mewn perygl o beidio a bodoli, a gaiff ei gynnal gan Yr Undeb Ryngwladol Dros Cadwraeth Natur.[1]
Y Naturiaethwr Carl Linnaeus a fathodd yr enw, a hynny 1758.[2] Yr enw Lladin yw homō (enw genidol hominis) sef "dyn, bod dynol" ac ystyr sapien yw 'deallus'.
Gyda thystiolaeth newydd yn cael ei darganfod yn flynyddol, bron, mae rhoi dyddiad ar darddiad y rhywogaeth H. sapiens yn beth anodd; felly hefyd gyda dosbarthiad llawer o esgyrn gwahanol isrywogaethau, a cheir cryn anghytundeb yn y byd gwyddonol wrth i fwy a mwy o esgyrn ddod i'r golwg. Er enghraifft, yn Hydref 2015, yn y cylchgrawn Nature cyhoeddwyd i 47 o ddannedd gael eu darganfod yn Ogof Fuyan yn Tsieina a ddyddiwyd i fod rhwng 80,000 a 125,000 o flynyddoedd oed.
Yn draddodiadol, ceir dau farn am ddechreuad H. sapiens. Mae'r cynta'n dal mai o Affrica maent yn tarddu, a'r ail farn yn honni iddynt darddu o wahanol lefydd ar yr un pryd.
Ceir sawl term am y cysyniad 'Allan-o-Affrica' gan gynnwys recent single-origin hypothesis (RSOH) a Recent African Origin (RAO). Cyhoeddwyd y cysyniad hwn yn gyntaf gan Charles Darwin yn ei lyfr Descent of Man yn 1871 ond nid enillodd ei blwyf tan y 1980au pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r fei: sef astudiaeth o DNA ac astudiaeth o siap ffisegol hen esgyrn. Oherwydd gwydnwch y dannedd, dyma'n aml yr unig dystiolaeth sy'n parhau oherwydd fod gweddill y corff wedi pydru. Gan ddefnyddio'r ddwy dechneg yma i ddyddio Homo sapiens, credir iddynt darddu o Affrica rhwng 200,000 a 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Llwyddodd H. sapiens i wladychu talpiau eang o'r Dwyrain, ond methwyd yn Ewrop oherwydd fod yno gynifer o Neanderthaliaid yn ffynnu'n llwyddiannus. O astudio'r genynnau, credir yn gyffredinol i H. sapiens baru gyda Neanderthaliaid.
Erbyn 2015 dyma'r farn fwyaf cyffredin.[3][4] Yn 2017 mynnodd Jean-Jacques Hublin o Max Planck Institute for Evolutionary Anthropology yn Leipzig fod ffosiliau o Moroco'n profi i H. Sapiens wahanu 350,000 CP.[5]
Yr ail farn (a gynigiwyd gan Milford H. Wolpoff yn 1988) yw i H. sapiens darddu ar ddechrau'r Pleistosen, 2.5 miliwn o flynyddoedd CP gan esbylgu mewn llinell syth hyd at ddyn modern (yr Homo sapiens sapiens) - hynny yw heb iddo baru gyda Neanderthaliaid.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.