Homo erectus pekinensis
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o Homo erectus yw Dyn Beijing (北京猿人 neu Běijīng Yuánrén; Saesneg: Peking Man), a elwir yn Lladin yn Homo erectus pekinensis (ac a arferwyd ei adnabod dan yr enw Sinanthropus pekinensis). Darganfuwyd yr olion cynharaf ohono rhwng 1923–27 wrth i archaeolegwyr gloddio yn Zhoukoudian (Chou K'ou-tien) ger Beijing (neu "Peking" fel y'i gelwid cyn mabwysiadu'r sillafiad newydd), Tsieina.
Animalia
Dyn Beijing (Saes: Peking man) Amrediad amser: Pleistosen | |
---|---|
Y craniwm cyntaf o Homo erectus pekinensis (Sinanthropus pekinensis) a ganfyddwyd yn 1929 yn Zhoukoudian, bellach ar goll. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Phylum: | Chordata |
Dosbarth: | Mammalia |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Genus: | Homo |
Rhywogaeth: | H. erectus |
Isrywogaeth: | H. e. pekinensis (Black, 1927) |
Enw Trinomial | |
Homo erectus pekinensis (Black, 1927) | |
Cyfystyron | |
Sinanthropus pekinensis |
Credir fod y grŵp yma o ffosiliau yn dyddio 750,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP),[1] ac yn 2009 cafwyd dyddio 26Al/10Be a oedd yn cadarnhau eu bod rhwng 680,000–780,000 o flynyddoedd CP.[2][3]
Rhwng 1929 a 1937, darganfuwyd rhan o benglog (crania), 11 gên, llawer o ddannedd, esgyrn amrywiol a nifer fawr o offer cerrig yn y Ogof Isaf yn Ardal 1 o safle Dyn Beijing yn Zhoukoudian. Amcangyfrifwyd ar y pryd eu bod rhwng 500,000 a 300,000 o flynyddoedd CP. Darganfuwyd hefyd nifer o ffosilau o bobl modern yn yr Ogof Uchaf ar yr un safle yn 1933.
Ymhlith y ffosiliau mwyaf cyflawn roedd:
- Mae Penglog II, a ddarganfuwyd yn 'Locus D' ym 1929, ac a ddyddiwyd yn 1930, yn oedolyn neu'n lasoed gyda maint ymennydd y tri hyn yn 1030 cc.
- Penglog III, a ganfuwyd yn 'Locus E' yn 1929 - glasoed gyda'i ymennydd yn 915 cc.
- Darganfuwyd Penglogau X, XI a XII (a elwir weithiau LI, LII a LIII) yn 'Locus L' yn 1936. Credir eu bod yn perthyn i oedolyn gwrywaidd, oedolyn benywaidd ac oedolyn ifanc (neu 'lasoed'), gyda maint yr ymennydd yn 1225 cc, 1015 cc a 1030 cc.
- Penglog V: canfuwyd dwy ran o benglog yn 1966 - rhannau coll o benglog a ganfuwyd yn 1934/6; mae cyfaint y penglog hwn yn 1140 cc. Mae'r penglog hwn yn fwy modern na'r gweddill.[4]
Davidson Black oedd yr archaeolegydd a wnaeth y rhan fwyaf o'r astudiaeth ar y ffosilau hyn hyd nes ei farwolaeth yn 1934. Cymerodd Pierre Teilhard de Chardin ac yna Franz Weidenreich ddisodli nes iddo adael Tsieina yn 1941. Diflannodd y ffosilau gwreiddiol yn 1941, ond mae'r modelau (castai) yn fanwl iawn ac felly hefyd y disgrifiadau o'r ffosiliau gwreiddiol.
- Ail-ffurfiad drwy fodelu cyfrifiadurol
- Cerflun llawn o Dyn Beijing, yn Amgueddfa Zhoukoudian.
- Ailffurfiad o'r penglog coll