diplomydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Syr Henry Watkins Williams-Wynn (16 Mawrth 1783 – 26 Mawrth 1856) yn ddiplomydd a gwleidydd o Gymru.[1]
Henry Watkins Williams-Wynn | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1783 |
Bu farw | 28 Mawrth 1856 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd |
Swydd | Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad y Deyrnas Unedig I'r Swistir, llysgennad y Deyrnas Unedig i Denmarc, llysgennad y Deyrnas Unedig i Württemberg, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Tad | Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig |
Mam | Charlotte Williams-Wynn |
Priod | Hester Frances Williams-Wynn |
Plant | Marie Emily Williams-Wynn, Charlotte Henrietta Williams-Wynn, Grenville Watkin Williams-Wynn, Katharine Williams-Wynn, Arthur Watkin Williams-Wynn, Henry Bertie Watkin Williams-Wynn |
Ganwyd Williams-Wynn ym 1783 yn drydydd mab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, a Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville. Roedd Grenville yn ddeiliad nifer o swyddi pwysig yn y llywodraeth, gan gynnwys gwasanaethu fel prif weinidog y DU rhwng 1763 a 1765. Roedd Henry yn frawd i Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Charles Watkin Williams-Wynn (1775-1850).[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow.
Ymunodd a'r swyddfa dramor fel clerc yn Ionawr 1799, pan oedd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville, yn bennaeth y swyddfa, ac yn gynnar yn 1801 penodwyd ef yn ysgrifennydd preifat ac yn awdur crynodebu. Rhwng Ebrill 1803 ac Ebrill 1807 roedd yn llysgennad arbennig i Etholwr Sacsoni, a gwobrwywyd ei wasanaeth â phensiwn o £1,500 y flwyddyn [3]. Am ychydig fisoedd (Ionawr i Ebrill 1807) eisteddodd yn y senedd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Midhurst. Gwnaethpwyd Wynn yn llysgennad arbennig ac yn weinidog plenipotensiwr i'r Swistir yn Chwefror 1822; beirniadwyd y penodiad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 26 Mawrth 1822, ac yn Nhŷ'r Cyffredin ar 15 a 16 Mai. O herwydd y feirniadaeth trosglwyddwyd ef i swydd debyg yn llys Würtemberg yn Chwefror 1823. Ym Medi 1824 anfonwyd ef i gyflawni swydd debyg yn Copenhagen, gan aros yno tan yn gynnar ym 1853.[4]
Pan benodwyd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville' yn ganghellor Prifysgol Rhydychen rhoddodd gradd D.C.L. (Doethuriaeth yn y Gyfraith Gyffredin) i Williams-Wynn.
Daeth Williams-Wynn yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 30 Medi 1825. Cafodd ei urddo'n Farchog Croes Mawr Hanover ym 1831, ac yn Farchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ar 1 Mawrth 1851.
Ym 1813 priododd Hester Frances 6ed merch Robert, Yr Arglwydd Carrington. Bu iddynt tri mab a thair merch.
Bu farw yn Llanforda, Swydd Amwythig yn 73 mlwydd oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.