Helen Ogston
swffraget o'r Alban From Wikipedia, the free encyclopedia
swffraget o'r Alban From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Helen Ogston (1883 – 4 Gorffennaf 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am dorri ar draws y Prif Weinidog David Lloyd George mewn cyfarfod yn yr Albert Hall, gan atal stiwardiaid y digwyddiad rhag ei thaflu allan, drwy eu chwipio gyda chwip ci.[1]
Fe'i ganed yn Aberdeen yn 1883, yn ferch i athro yn y brifysgol leol. [1] Bu'n briod ddwywaith: y tro cyntaf i Dr Eugene Dunbar Townroe ar 4 Mai 1912 yng Ngholeg y Brenin, Old Aberdeen a'r ail dro i Granville Havelock Bullimore ar 3 Ionawr 1929 yn Norwich NorfolK. Adnabyddid hi am gyfnod fel Helen Charlotte Townroe ac fel Helen Charlotte Bullimore.
Graddiodd mewn gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberdeen cyn symud i'r de gyda'i chwaer iau. Daeth y ddau ohonynt yn aelodau o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union) ym 1906.
Ar 5 Rhagfyr 1908 mynychodd gyfarfod cyhoeddus lle'r oedd David Lloyd George yn siarad yn yr Albert Hall. Trefnwyd y cyfarfod gan Ffederasiwn Rhyddfrydol y Menywod ac er bod Lloyd George yn siarad, roedd amheuaeth y byddai'n osgoi mynd i'r afael â'r mater pwysicaf y dydd, sef yr hawl i fenywod bleidleisio.[2]
Ceisiodd y stiwardiaid ei throi allan ond tynnodd chwip ci a oedd wedi'i guddio o dan ei chot. Ymddangosodd y stori yn y papurau newydd lleol ac o ganlyniad i'r digwyddiad hwn ataliwyd menywod rhag mynychu cyfarfodydd areithio Lloyd George. Nododd Ogston ei rhesymau dros ddefnyddio'r chwip:
“ |
"a man put the lighted end of his cigar on my wrist; another struck me in the chest. The stewards rushed into the box and knocked me down. I said I would walk out quietly, but I would not submit to their handling. They all struck at me. I could not endure it. I do not think we should submit to such violence. It is not a question of being thrown out; we are set up on and beaten."[3][4] |
” |
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.