![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Hart_Crane_Signature.jpg/640px-Hart_Crane_Signature.jpg&w=640&q=50)
Hart Crane
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd Americanaidd oedd Harold Hart Crane (21 Gorffennaf 1899 – 27 Ebrill 1932). Ysgrifennodd barddoniaeth fodernaidd, a ellir ei hystyried yn rhan o'r mudiad ffurfiolaidd, o natur astrus, arddulliedig, ac uchelgeisiol ei maes. Dathliad o gyfoethogrwydd bywyd mae nifer o'i gerddi, sy'n disgrifio bywyd yr oes ddiwydiannol mewn geiriau dwys, gweledigaethol.[1] Cyfunodd dylanwadau llenyddol Ewrop a thechnegau mydryddu traddodiadol gyda theimladrwydd Americanaidd oedd yn olrhain i'r traddodiad Rhamantaidd (Walt Whitman a Ralph Waldo Emerson).[2][3]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Hart Crane | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1899 ![]() Garrettsville, Ohio ![]() |
Bu farw | 27 Ebrill 1932 ![]() o boddi ![]() Florida ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | The Bridge ![]() |
Mudiad | Rhamantiaeth ![]() |
Tad | Clarence A. Crane ![]() |
Mam | Grace Edna Hart ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau