![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6a/Haggis_Mo.jpg/640px-Haggis_Mo.jpg&w=640&q=50)
Hagis
pwdin sawrus sy'n cael ei gysylltu yn bennaf â'r Alban / From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o bwdin sawrus sy'n cael ei gysylltu yn bennaf â'r Alban yw hagis. Mae'n cynnwys cynnwys syrth (calon, iau, ac ysgyfaint) dafad, ynghyd â nionyn, blawd ceirch, siwed, sbeisys, a halen, yn gymysg a stoc, ac yn draddodiadol wedi'i goginio yn stumog yr anifail.
Ffeithiau sydyn Math, Gwlad ...
![]() | |
Math | pwdin sawrus, saig o gig, saig o offal ![]() |
---|---|
Gwlad | Yr Alban ![]() |
Enw brodorol | haggis ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c2/Haggis%2C_neeps_and_tatties.jpg/640px-Haggis%2C_neeps_and_tatties.jpg)
Yn Lloegr y ceir y cofnod cynharaf o'r enw "hagws" neu "hagese", a hynny tua'r flwyddyn 1430, ond mae'r pryd yn cael ei ystyried o dras Albanaidd yn draddodiadol. Yno, mae'n cael ei alw'n y pryd cenedlaethol[1] o ganlyniad i'r gerdd a ysgrifennodd y bardd Robert Burns i gyfarch yr Hagis yn 1787. Mae hagis fel arfer yn cael ei fwyta gyda rwdan a thatws ("neeps and tatties"), wedi'u berwi a'u stwnsio ar wahan, ynghyd â diferyn o chwisgi, yn arbennig fel y prif gwrs mewn Swper Burns.