From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlywydd Syria oedd Hafez al-Assad (Arabeg: حافظ الأسد; Ḥāfiẓ al-Asad), 6 Hydref 1930 – 10 Mehefin 2000), a hynny am gyfnod o dri degawd. Caiff ei ystyried yn gyfrifol am ddod a chyfnod o ymladd mewnol i ben. Caiff hefyd ei gondemnio gan lawer am fod yn llawdrwm ar ei bobl ei hun, yn enwedig am "Gyflafan Hama" yn 1982.
Hafez al-Assad | |
---|---|
Ganwyd | 6 Hydref 1930 Qardaha |
Bu farw | 10 Mehefin 2000 o trawiad ar y galon Damascus |
Dinasyddiaeth | Syria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Syria, Prif Weinidog Syria, Arlywydd Syria |
Plaid Wleidyddol | Ba'ath Party |
Tad | Ali al-Assad |
Priod | Anisa Makhlouf |
Plant | Bassel al-Assad, Bashar al-Assad, Bushra al Assad, Maher al-Assad, Majd Asad |
Gwobr/au | Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Coler Urdd y Llew Gwyn, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta |
llofnod | |
Mae grwpiau hawliau dynol wedi cyflwyno rhestrau o achosion ble roedd yn gyfrifol am ladd pobl heb achos llys yn gyntaf, yn enwedig pobl a oedd yn erbyn ei lywodraeth.[1] Fe'i dilynwyd gan ei fab Bashar al-Assad, yn 2000.
Cafodd Hafez ibn 'Ali ibn Sulayman al-Assad ei eni i deulu tlawd yn ardal Latakia, gorllewin Syria. Roedd y teulu yn Alawi o ran crefydd, ac ef oedd y cyntaf o'i deulu i fynd i ysgol uwchradd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.