![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d5/G%25C3%25B6bekli_Tepe%252C_Urfa.jpg/640px-G%25C3%25B6bekli_Tepe%252C_Urfa.jpg&w=640&q=50)
Göbekli Tepe
safle archaeolegol yn Nhwrci / From Wikipedia, the free encyclopedia
Safle archaeolegol ar gopa mynydd yn Ne-ddwyrain Anatolia, Twrci ydy Göbekli Tepe sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1]
![]() | |
Math | tell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Şanlıurfa, Haliliye ![]() |
Gwlad | Twrci ![]() |
Arwynebedd | 126 ha, 461 ha ![]() |
Uwch y môr | 760 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 37.2231°N 38.9225°E ![]() |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa. Ar ei uchaf, mae'n 15 m (49 tr) ac mae tua 300 m (984 tr) mewn diametr. Mae'r safle yn 760 m (2,493 tr) yn uwch na lefel y môr.[2] Enw copa'r mynydd yw "Bryn y Bol Mawr".[3]
Mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 9C CC a 11C CC. yn ystod y cyfnod cynharaf, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig A' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic A neu PPNA) codwyd cylchoedd o feini neu gerrig anferthol. Ceir dros 200 o feini neu golofnau cerrig mewn ugain cylch. Mae uchter pob maen hyd at 6 metr ac mae pob maen yn pwyso hyd at 20 tunnell. Maent wedi eu llitho i socedi a naddwyd o'r graig yn un pwrpas i'w cynnal.[4]
Yn yr ail gyfnod, sef y 'Cyn-grochenwaith Neolithig B' (Saesneg: Pre-Pottery Neolithic B neu PPNB) mae'r meini'n llai ac wedi'u gosod ar ffurf ystafelloedd petryal, gyda lloriau o galchfaen wedi'u caboli'n llyfn. Ar ddiwedd y cyfnod hwn ni fu defnydd o'r safle na rhagor o ddatblygu.
Mae pwrpas y noddfa hwn yn anhysbys, yn ddirgelwch llwyr. Cafwyd hyd iddo gan archaeolegydd Almaenig, Klaus Schmidt a fu'n gweithio yno rhwng 1996 hyd at ei farwolaeth yn 2014. Cred Schmit yw mai noddfa neolithig o ryw fath ydoedd.