![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bd/Cross_on_Dodman_Point_%25289311%2529.jpg/640px-Cross_on_Dodman_Point_%25289311%2529.jpg&w=640&q=50)
Gwrin
sant Cernyweg a Chymreig o'r 6ed ganrif / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant Cernyweg a Chymreig o'r 6g oedd Sant Gwrin a chyfaill i Pedrog, nawddsant Cernyw. Roedd ganddo ddwy eglwys yng Nghernyw: y naill yn Bodmin a'r llall yn Gorran Haven. Ym Mhowys, fe'i coffeir yn eglwys ac yn enw pentref Llanwrin.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d7/Cross_on_Dodman_Point_%289306%29.jpg/640px-Cross_on_Dodman_Point_%289306%29.jpg)
Disgrifir y modd y daeth Pedrog o hyd i'r meudwy Gwrin yn llawysgrif ' Bywyd Sant Pedrog gan Stant Méen'; wedi i Bedrog adael Sant Wethnog, darganfu Vuronus, 'meudwy hynod o sanctaidd' a derbyniodd fwyd a lloches ganddo. Yn fuan wedyn gadawodd Gwrin y lle, a bu Pedrog ei hun yn gyfrifol amdano. Mae'r Gotha MS yn disgrifio'r lle yn llawnach gan nodi ei fod, 'mewn dyffryn... ac oherwydd mai mynachod oedd y cyntaf i fyw yno... gelwir y lle yn Bothmena (h.y. Bodmin: 'man byw neu 'bod' y myneich').[1] Mae hefyd yn nodi i 'Wronus' symud i fan a oedd ddiwrnod o daith i'r de lle treuliodd gweddill ei ddyddiau; ceir lle o'r enw 'Sant Gorran' chwe milltir i'r de o St. Austell a cheir 'St Gorran's Well' ym mynwent eglwys Bodmin.[2]