From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlith yw dŵr ar ffurf diferion sy'n ymddangos ar wrthrychau tenau sydd yn yr awyr agored yn ystod y bore neu gyda'r nos. Mae'n digwydd o ganlyniad i gyddwyso.[1] Wrth i'r arwyneb oeri trwy belydru gwres, mae lleithder atmosfferig yn cyddwyso ar raddfa gynt nag y mae'n anweddu, ac yn ffurfio diferion o ddŵr o ganlyniad.[2]
Os yw'r tymhered yn ddigon isel, gall gwlith ffurfio fel rhew; gelwir y ffurf hon yn barrug.
Oherwydd bod perthynas rhwng gwlith a thymheredd arwynebau, mae'n fwy amlwg ddiwedd yr haf ar arwynebau nad ydynt yn cael eu cynnhesu gan wres sydd wedi'i ddargludo o'r ddaear, fel glaswellt, dail, rheiliau, toeau ceir, a phontydd.
Nid ddylid cymysgu rhwng gwlith a dafnu, sef y proses sy'n caniatau i blanhigion ryddhau gormodedd o ddŵr allan o'u dail. Defnyddir teclyn o'r enw drosometer i fesur gwlith.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.