![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e8/Baltic_states.svg/langcy-640px-Baltic_states.svg.png&w=640&q=50)
Gwledydd Baltig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tair gwlad sy'n ffinio â'r Môr Baltig yng Ngogledd-Ddwyrain Ewrop yw'r gwledydd Baltig: Estonia, Latfia, a Lithwania.[1]
Math | rhanbarth ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ewrop, Northeastern Europe, Baltic region ![]() |
Gwlad | Estonia, Latfia, Lithwania ![]() |
Gerllaw | Y Môr Baltig ![]() |
Yn ffinio gyda | Pomorze ![]() |
Cyfesurynnau | 57°N 25°E ![]() |
![]() | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e8/Baltic_states.svg/640px-Baltic_states.svg.png)
Baltwyr yw'r Latfiaid a'r Lithwaniaid, sy'n siarad yr ieithoedd Baltig Latfieg a Lithwaneg. Mae'r Estoniaid yn Falto-Ffiniaid sy'n siarad yr iaith Ffinno-Wgrig Estoneg. Ceir lleiafrifoedd eraill yn y gwledydd Baltig o dras Almaenig a Rwsiaidd.
Mae'r cysyniad o'r gwledydd Baltig cyn yr 20g yn ddadleuol. Mae gan Estonia gysylltiadau agosach â gwledydd Llychlyn, ac yn hanesyddol bu perthynas glos rhwng Lithwania a Gwlad Pwyl. Enillodd y tair gwlad annibyniaeth oddi ar Ymerodraeth Rwsia yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd eu meddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a ni ad-enillodd eu hannibyniaeth hyd nes diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991.
Gellir gwahaniaethu'r enw "gwledydd Baltig" oddi ar y term "gwledydd y Môr Baltig", sydd yn cynnwys pob gwlad sydd yn ffinio â'r Baltig.