Gwibiwr llwyd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr llwyd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr llwyd; yr enw Saesneg yw Dingy Skipper, a'r enw gwyddonol yw Erynnis tages.[1][2]
Ffeithiau sydyn Erynnis tages, Dosbarthiad gwyddonol ...
Erynnis tages | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Hesperiidae |
Genws: | Erynnis |
Rhywogaeth: | E. tages |
Enw deuenwol | |
Erynnis tages (Linnaeus, 1758) | |
Cau
Mae i'w weld ledled Ewrop, Asia Leiaf a chanol Affrica ac at ardal Amur. Tir agored, gwelltog yw ei hoff gynefin - hyd at 2,000 metr uwchlaw lefel y môr. Mae'r glöyn byw yn paru ddwywaith: rhwng Mai a Mehefin a rhwng Gorffennaf ac Awst, ond unwaith yn unig mae'r rheiny sy'n byw ar dir uchel yn paru.
Hoff fwyd y math Ewropeaidd yw Eryngium, Lotus, Coronilla, Medicago, Hippocrepis ayb.