Gwesty
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydliad sy'n darparu llety am dâl am gyfnodau byr ydy gwesty. Yn y gorffennol, arferai llety elfennol olygu ystafell gyda gwely, cwpwrdd, bwrdd bychan a sinc ond i raddau helaeth mae ystafelloedd mewn gwestai mwy modern yn cynnwys cyfleusterau megis ystafell ymolchi en-suite a pheiriant rheoli'r tymheredd. Yn aml, ceir cyfleusterau ychwanegol fel ffôn, cloc larwm, teledu a chysylltiad i'r rhyngrwyd; gellir darparu byrbrydau a diodydd yn y bar-bychan, ac offer er mwyn gwneud diodydd poeth. Mae gan nifer o westai mwy o ran maint gyfleusterau fel bwytai, pyllau nofio, ac ystafelloedd cynadledda. Fel arfer, rhifir ystafelloedd mewn gwestai er mwyn i'r cwsmeriaid fedru adnabod eu hystafell.
Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...
Math | llety, cyfleuster, adeilad |
---|---|
Rhan o | diwydiant croeso, diwydiant gwesty, sector gwasanaeth bwyd a gwesty |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau