Tansanïa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Unedig Tansanïa neu Tansanïa.[1] Saif yn ardal Llynnoedd Mawr Affrica. Mae'n ffinio ag Wganda a Chenia i'r gogledd, Rwanda, Bwrwndi a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gorllewin, Sambia, Malawi a Mosambic i'r de a Chefnfor India i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa. Ei phoblogaeth yn ôl y Cyfrifiad cenedlaethol diwethaf oedd 57,310,019 (2017)[2] a phoblogaeth ei phrifddinas, Dodoma, oedd 213,636 (2012), 213,636 (2020), 150,604 (2002), 45,807 (1978).
Gweriniaeth Unedig Tansanïa Jamhuri ya Muungano wa Tanzania (Swahili) | |
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tanganica, Sansibar |
Prifddinas | Dodoma |
Poblogaeth | 57,310,019 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Mungu ibariki Afrika |
Pennaeth llywodraeth | Samia Suluhu Hassan |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Amser Dwyrain Affrica, Africa/Dar_es_Salaam |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swahili, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | Tansanïa |
Arwynebedd | 947,303 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Cenia, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sambia, Malawi, Mosambic, Llyn Victoria, Seychelles |
Cyfesurynnau | 6.3°S 34.9°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabinet of Tanzania |
Corff deddfwriaethol | National Assembly |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Tansanïa |
Pennaeth y wladwriaeth | Samia Suluhu Hassan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Tansanïa |
Pennaeth y Llywodraeth | Samia Suluhu Hassan |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $70,656 million, $75,709 million |
Arian | Swllt Tansanïa |
Canran y diwaith | 3 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 5.145 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.549 |
Yn swyddogol, diffinnir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (presidential constitutional republic) ers 1996. Ei phrifddinas swyddogol yw Dodoma, ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.[3] Yn Dar es Salaam, sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.[4][4][5][6]
Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y 19g a hynny gan yr Almaenwyr ac yna'r Prydeinwyr wedi'r Ail Ryfel Byd. Llywodraethwyd y tir mawr Tanganyika ar wahân i ynysfor Sansibar, ond wedi iddynt ddod yn annibynnol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.
Amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig fod ei poblogaeth tua 56.31 miliwn, sydd ychydig yn llai na De Affrica, gan ei gwneud yr ail wlad fwyaf poblog sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl i'r de o'r Cyhydedd. Mae'r boblogaeth yn cynnwys tua 120 o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol. Gwladwriaeth sofran yw Tansanïa, gweriniaeth gyfansoddiadol arlywyddol ac ers 1996 ei phrifddinas swyddogol yw Dodoma lle mae swyddfa'r arlywydd, y Cynulliad Cenedlaethol, a holl weinidogaethau'r llywodraeth.[7] Dar es Salaam, y brifddinas gynt, sy'n cadw'r mwyafrif o swyddfeydd y llywodraeth a hi yw dinas fwyaf, prif borthladd a phrif ganolfan fasnachol y wlad.[4][5][8] Mae Tansanïa'n wladwriaeth un blaid de facto< gyda'r blaid sosialaidd ddemocrataidd Chama Cha Mapinduzi mewn grym.
Gwlad fynyddig a choediog iawn yn y gogledd-ddwyrain yw Tansanïa. Gorwedda tri o Lynnoedd Mawr Affrica yn rhannol o fewn y wlad. I'r gogledd a'r gorllewin mae Llyn Victoria, llyn mwyaf Affrica, a Llyn Tanganyika, llyn dyfnaf y cyfandir, sy'n adnabyddus am ei rywogaethau unigryw o bysgod. I'r de ceir Llyn Malawi. Mae'r lan ddwyreiniol yn boeth a llaith, gydag ynysfor Sansibar ychydig allan ar y môr. Ardal Cadwraeth Bae Menai yw ardal forol warchodedig fwyaf Zanzibar. Lleolir Rhaeadr Kalambo, ar Afon Kalambo ar y ffin gyda Sambia, a hi yw'r rhaeadr ddi-dor ail uchaf yn Affrica.[9]
Cristnogaeth yw'r grefydd fwyaf yn Tansanïa, ond mae yna leiafrifoedd sylweddol sy'n dilyn Islam ac eraill sy'n dilyn y gredo Eneidyddiaeth hefyd.[10] Siaredir dros 100 o wahanol ieithoedd yn Tansanïa, sy'n golygu mai hon yw'r wlad fwyaf amrywiol ei hieithoedd yn Nwyrain Affrica.[11] Nid oes gan y wlad iaith swyddogol de jure [12] er mai Swahili yw'r iaith genedlaethol.[13] Defnyddir Swahili mewn dadl seneddol, yn y llysoedd is, ac fel cyfrwng addysgu yn yr ysgol gynradd. Defnyddir Saesneg mewn masnach dramor, mewn diplomyddiaeth, mewn llysoedd uwch, ac fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion uwchradd a cholegau;[11] er bod llywodraeth Tansanïa'n bwriadu rhoi'r gorau i'r Saesneg fel prif iaith yr addysgu, bydd ar gael fel cwrs dewisol.[14] Ceir tua 10 y cant o Dansanïaid sy'n siarad Swahili fel iaith gyntaf, ac mae hyd at 90 y cant yn ei siarad fel ail iaith.[11]