From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwladwriaeth gomiwnyddol weriniaethol sosialaidd yw Laos, neu Weriniaeth Ddemocrataidd Pobl Lao. Y brifddinas yw Vientiane.
Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Lao Sathalanalat Paxathipatai Paxaxon (Lao) | |
Arwyddair | Mor Brydferth! |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth comiwnyddol, gweriniaeth y bobl, gwlad |
Prifddinas | Vientiane |
Poblogaeth | 6,858,160 |
Sefydlwyd | 11 Mai 1947 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) 22 Hydref 1953 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc) 2 Rhagfyr 1975 (Diddymu'r Frenhiniaeth) |
Anthem | Pheng Xat Lao |
Pennaeth llywodraeth | Phankham Viphavan |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Asia/Vientiane |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lao |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia |
Gwlad | Laos |
Arwynebedd | 236,800 km² |
Yn ffinio gyda | Myanmar, Cambodia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Gwlad Tai, Fietnam |
Cyfesurynnau | 18.2°N 104.1°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Y Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Laos |
Pennaeth y wladwriaeth | Thongloun Sisoulith |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Laos |
Pennaeth y Llywodraeth | Phankham Viphavan |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $18,827 million, $15,724 million |
Arian | Kip |
Cyfartaledd plant | 2.57 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.607 |
Gwlad nad yw'n ffinio â'r un môr ydyw er ei bod yn ffinio â Myanmar (Byrma) a Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-orllewin, Fietnam i'r dwyrain, Cambodia i'r de a Gwlad Tai i'r gorllewin.
Tardda hanes y wlad yn ôl i Deyrnas Lang Xang neu Dir y Miliwn o Eliffantod, a fodolodd o'r 14g i'r 18g. Wedi cyfnod yn perthyn i Wlad Tai ac wedyn i Ffrainc, enillodd ei annibyniaeth ym 1954. Daethpwyd â rhyfel cartref hir i ben pan ddaeth yr arweinwyr comiwnyddol, y Pathet Lao, i rym ym 1975 a chyhoeddi Gweriniaeth y Bobl.
Mae masnach a menter breifat wedi cynnydu ers canol y 1980au, ond mae datblygu'n cael ei gwneud yn anodd gan y dirwedd fynyddig a choedwigol. Mae hyd at 80% o'r sawl sy'n gweithio yn y wlad yn gweithio yn y sector amaethyddiaeth gynhaliol sy'n cyfrif am 57% o'r GDP; ceir newyn ar raddfa eang oherwydd methiannau niferus comiwnyddiaeth a'r economi yno. Y kip yw'r arian cyfredol.
Mae nifer o grwpiau ethnig gwahanol yn y wlad a dim ond 60% sy'n perthyn i'r grŵp ethnig mwyaf sef y Lao. Lao yw'r iaith swyddogol ond ceir nifer o ieithoedd llai yn ogystal. Mae rhan fwyaf y boblogaeth yn Fwdhiaid.
Rhennir Laos yn 16 talaith (Kang), 1 ardal ddinesig (Kumpang nakon), ac un Ardal Arbennig (ketpisade):
Is-rennir Laos yn bellach yn muang yn ogystal.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.