Pryf sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd ers i'r Eifftiaid eu cadw. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio mewn lloches tebyg i nyth - fel ffynhonnell bwyd, yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefu ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Rhywogaethau ...
Gwenynen Fêl
Thumb
Gwenynen ar flodyn afal
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Hymenoptera
Is-urdd: Apocrita
Teulu: Apidae
Is-deulu: Apinae
Genws: Apis
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

A. andrenifloris
A. cerana
A. dorsata
A. florea
A. koschevnikovi
A. mellifera (y wenynen fêl gyffredin)
A. nigricincta

Cau

Bywyd

Thumb
Mamwenynen. Cafodd y dot melyn ar ei chefn oddi wrth wenynwr er mwyn ei adnabod yn sydyn

Mewn trefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a channoedd o wenyn gormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae llawer mwy o weithwyr. Fel arfer, mae rhwng 40,000 ac 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a chredir eu bod yn defnyddio "dawns" i nodi lleoliad blodau llawn neithdar i'r gwenyn eraill.

Mae gan y wenynen golyn a gallant bigo, ond fel arfer gwnant hynny'n unig pan gredant eu bod dan fygythiad.

Cynnyrch

Thumb
Gwenyn ar crwybr cwyr. Mae'r dotiau melyn tu fewn y crwybr yn fêl

Paill

Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a cheir ardaloedd ble mae'r gwenynwyr yn gosod cychod gwenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod y gwenyn yn gwneud eu gwaith.

Mêl

Defnyddir mêl i roi blas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.

Cŵyr gwenyn

Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Er enghraifft, defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn.

Traddodiadau

Thumb
Y gwenynwr wrth ei waith.

Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur sy'n ennyn ein cywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin:

Pan yw dien gwlith

a llad gwenith

a gwlith gwenyn

anglud ac ystor.

Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig).

Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yng ngogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd na wyddai neb sut y'i cynhyrchid.[1]

Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: 'Bonhedd gwenyn o baradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr'.[2] Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig.[3] Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid 'crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ymhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg.'[4] Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn 'i gannu fel mêl gwenyn'[5] Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: 'Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr'[6] Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai drwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono.[7] Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu:

Cwning cân nwsing. Cywion isel - cainc,

Cyrff ifainc craff afel;

Cnwd o wybed cnawd Abel,

Cario maen' y cwyr a'r mêl. [8]

Roedd yn arferiad (ac efallai ei bod yn parhau) mewn rhai mannau yng Nghymru, pan fyddai rhywun yn marw i weddill y teulu fynd 'i ddweud wrth y gwenyn'.

Hen ddulliau o gadw gwenyn

Arferid cadw cychod gwenyn, o wneuthuriad gwellt wedi ei blethu, mewn gwagle wedi ei neilltuo ar eu cyfer mewn waliau ar ffermydd. Mae nifer o adfeilion ger hên ffermdy yng Nghoed Glanrafon, GNG Coedydd Maentwrog.

Thumb
Tyllau wedi eu adeiladu mewn wal i gadw cychod gwenyn wedi eu plethu o wellt, Coedydd Maentwrog, 1980au

Mi fu William Linnard yn ysgrifennu am furiau gwenyn yng nghyffiniau Maentwrog yn yr wythdegau. Roedd fferm o’r enw Mur Gwenyn ym Mhrenteg.[9] Mae "Mur Gwenyn" arall yn y Fachwen, Arfon.

Defnyddid cychod pren i gadw gwenyn mêl yn ddiweddarach fel y dengys y llun hwn 20ed ganrif gynnar o hen ffermdy’r Barcdy ger Talsarnau, Meirionnydd lle gwelir cychod gwenyn yn y cefndir (de uchaf).

Ffenoleg

  • 2010

Bu cynnwrf mawr yn Heol Watling, Llanrwst, Mehefin 18 2010 wrth i gannoedd ar gannoedd o wenyn heidio. Rhaid oedd gofyn am gymorth arbenigwr lleol.[10]

  • 1914

Cofnododd Griffith Thomas o ardal Rhiw, Pen Llŷn, yn ei ddyddiadur bod “gwenyn yn codi o gwch Penarfynydd heddiw” y 10 Gorffennaf 1914, ac wedyn 27 Mehefin 1914, 6ed Gorffennaf 1914, 21 Mehefin 1914[www.rhiw.com]

  • Dyddiadau eraill

Dyma’r dyddiadau eraill a gofnododd y gwenyn yn codi: 1 Gorffennaf 1915, 23 Gorffennaf 1916, 1 Awst 1916, 5 Awst 1916.[www.rhiw.com]

Onid oedd y dyddiad “codi” yn Llanrwst yn 2010 yn gynnar o’i gymharu â dyddiadau Griffith Thomas? Meddai'r gwenynwr Paul Williams: “Mae'r tywydd yn arwain at heidio yn anuniongyrchol. Gwn am wenyn yn Llanfachreth sydd wedi heidio yn y dyddiau d'wytha hefyd [21 Mehefin 2010]. Y prif gyfnod heidio ydi diwedd y gwanwyn/dechrau'r haf.”[11]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.