Gweinydd (cyfrifiadur)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn cyfrifiadura, mae gweinydd (ll. gweinyddion; Saesneg: server) yn cyfeirio at ddyfais neu'n set o ddyfeisiadau sydd a rhaglen gyfrifiadurol yn rhedeg arnynt er budd rhaglenni neu ddyfeisiadau eraill a elwir yn "gleientiaid". Gelwir y dull y maen nhw'n cysylltu a'i gilydd yn "bensaerniaeth cleient-gweinydd". Gallant wneud amryw o bethau (a elwir yn "wasanaethau"), megis rhannu data neu adnoddau eraill rhwng y cleientiaid, neu wneud cyfrifiannau i'r cleient. Gall un gweinydd wasanaethu sawl cleient, a gall un cleient ddefnyddio sawl weinyddwyr ar y tro.[1] Yn wreiddiol, roedd y term 'gweinydd' yn cyfeirio at y feddalwedd, ond gydag amser daeth i olygu'r ddyfais lle'r eisteddai'r feddalwedd. Ar rwydwaith o weinyddion, gelwir y gweinydd canolog yma yn "westeiwr" (host).
Ceir gwahanol fathau o weinyddion, gan gynnwys y gweinydd data, gweinydd ffeiliau, gweinydd post, gweinydd argraffu, gweinydd gwe, gweinydd gemau a gweinydd i redeg rhaglenni cyfrifiadurol.[2]
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ar y model a elwir yn "fodel gofyn a rhoi" (request–response model), lle mae'r cleient yn anfon cais i'r gweinydd, sydd yn ei dro yn gweithredu mewn rhyw fodd, ac yna'n danfon neges yn ôl i'r cleient, a'r cleient yntau'n cadarnhau hynny. Mae labelu cyfrifiadur fel gweinydd yn awgrymu ei fod yn gyfrifiadur arbenigol sy'n rhedeg gweinyddion mewnol. Fel arfer, dim ond cyfrifiaduron cadarn, pwerus, sy'n cael eu defnyddio i'r pwrpas yma.