Gwawdodyn hir
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r gwawdodyn hir yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac, felly, yn fesur caeth. Mae'n perthyn yn agos i'r gwawdodyn byr, ond bod dwy linell ychwanegol o gyhydedd nawban o flaen y toddaid. Mae diwedd pob llinell yn odli, a cheir odl gyrch rhwng y gair cyrch a gorffwysfa'r llinell glo. Ni chaniateir defnyddio'r gynghanedd lusg yn y llinell glo.
Ffeithiau sydyn Rhestr ...
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Cau
Dyma enghraifft allan o "Cwm Carnedd" gan Gwilym R Tilsley:
- Do, bu yno brysurdeb unwaith,
- A sŵn o gaban a sain gobaith;
- Fel clychau'n tincian clyweyd ganwaith
- Gleb pedolau'r hogiau foregwaith,
- A'u gweld yn eu dillad gwaith - trwy'r oriau
- Yn rhwygo o greigiau eu goreugwaith.
Dyma'r enghraifft a ganodd Dafydd Nanmor yn ei awdl enghreifftiol i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd:
- Anos yw d'aros, a'th wayw diriog
- Wrth gastell no'r wiber asgellog;
- A'th ofn ar feilch, a'th faner fylchiog
- Yn dilyn gwaedwyr hyd Lan Gadog,
- O'r bron, uwch afon, a chyfog - bob dri
- Y gwŷr, a'u torri yn gwarterog.
Mae'n berthynas agos i'r hir-a-thoddaid, a thueddwyd yn ddiweddar i ganu mwy ar fesur yr hir-a-thoddaid na'r gwawdodyn hir.