Gwasgwr hydrolig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais ydyw'r gwasgwr hydrolig sy'n defnyddio silindr hydrolig i gynhyrchu egni drwy wasgedd, ac yn aml symudiad cryf yn dilyn hynny. Mae'n defnyddio lifer mecanyddol (a gaiff ei adnabod fel "Gwasgwr Bramah").[1][2]
Mae'r gwasgwr hydrolig yn ddibynnol ar Egwyddor Pascal: mae'r grym y gwasgedd drwy'r holl system caeedig yn gyson. Hynny yw, mae'r gwasgedd ar hylif sydd wedi'i gyfyngu yn cael ei drosglwyddo heb ei leihau, ac yn gweithredu gyda grym cyfartal ar ardal gyfartal, 90 gradd i fur y cynhwysydd.
Un rhan o'r system hon yw'r piston, sydd yma'n gweithredu fel pwmp, gyda grym mecanyddol bychan yn gweithio ar arwynebedd bychan. Y rhan arall yw'r piston gydag arwynebedd mwy, sy'n cynhyrchu grym mecanyddol mwy, a chyfatebol.