From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwasg Gomer yn gwmni argraffu Cymreig. Ar un adeg roedd yn un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).
Enghraifft o'r canlynol | gwasg, cyhoeddwr, family business |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1892 |
Rhagflaenwyd gan | Gwasg Aberystwyth |
Perchennog | Teulu Lewis, Gwasg Gomer |
Sylfaenydd | John David Lewis |
Pencadlys | Llandysul |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.gomer.co.uk |
Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T. Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Siân Lewis a Waldo Williams. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y wasg yw Sali Mali.
Yn Medi 2019 cyhoeddwyd y byddai cwmni Gomer yn cau eu adran gyhoeddi ond yn parhau gyda'r gwaith argraffu. Roedd hyn yn nodi diwedd 127 mlynedd o gyhoeddi. Dywedodd rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y byddai'r newid strategol hwn yn sicrhau dyfodol y staff o 55.[1] Yn 2021 cyhoeddwyd bod yr adran gyhoeddi wedi ei werthu i gwmniau Y Lolfa ac Atebol gan gynnwys catalog o dros 2,500 o lyfrau. Prynodd Y Lolfa y catalog o lyfrau i oedolion a rhan fwyaf o'r ffuglen gwreiddiol i blant. Prynodd Atebol yr holl lyfrau plant a chynnwys addysgiadol.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.