From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (neu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) yn darparu gofal a thriniaeth frys cyn-ysbyty 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ddefnyddio nifer o ambiwlansau dros Gymru benbaladr. Caiff ei reoli gan ymddiriedolaeth sydd a'i bencadlys yn Llanelwy ac mae'n rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG).[1]
Mae'r gwasanaeth ar ganol cynllun datblygu 5 mlynedd, sef ymgais i'w foderneiddio a'i wneud yn fwy effeithiol.
Fe'i sefydlwyd ar 1 Ebrill 1998 ac mae ganddo 2,500 o staff sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth ledled Cymru i tua 3 miliwn o bobl.[2]
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys 13 aelod, pob un â hawl pleidleisio a'i swyddogaeth yw:
Mae'r ganolfan reoli a chyfathrebu yn ateb galwadau gan bobl sy'n ffonio 999 am ambiwlans. Ceisiant, yn ystod yr alwad, benderfynu pa ofal sydd ei angen ac os oes angen cymorth brys, byddant yn anfon ambiwlans neu gerbyd ymateb cyflym (RRV) ac yn rhoi cyfarwyddiadau nes bod help yn cyrraedd. Os nad yw'r alwad yn un brys, gallant drosglwyddo'r alwad i ymgynghorydd nyrsio yn 'Galw Iechyd Cymru' i gael asesiad. Mae'r ganolfan hefyd yn cymryd galwadau o ysbytai sy'n gofyn am drosglwyddo cleifion mewn argyfwng neu frys, i ysbytai eraill pan fo'r claf angen gofal neu driniaeth yn ystod y daith.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.