Gwas neidr coes felen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas neidr o deulu'r Gomphidae yw Gwas neidr coes felen (enw gwrywaidd; llu. gweision coes felen; Lladin: Gomphus flavipes; Saesneg: river clubtail) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod).
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Gwas neidr coes felen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Gomphidae |
Genws: | Gomphus |
Rhywogaeth: | G. flavipes |
Enw deuenwol | |
Gomphus flavipes Charpentier, 1825 | |
Cyfystyron | |
Stylurus flavipes |
Cau
Gellir ei ganfod yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop: o Ffrainc i ddwyrain Siberia. Ei gynefin arferol yw afonydd glân, araf, yn enwedig rhai gyda gwely o fwd, pridd neu dywod mân er mwyn i'r fenyw ddodwy ynddo. Ar adegau prin, mae hefyd i'w weld ar lannau llynnoedd. Eu bwyd arferol yw pryfaid bychan.