Gwarchodfa Natur Leol Comin Llangoed ac Aberlleiniog
gwarchodfa natur sy'n agos at arfordir Ynys Môn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwarchodfa Natur Leol Comin Llangoed ac Aberlleiniog yn agos at arfordir Ynys Môn, yn y de-ddwyrain. Yr atyniad mwyaf amlwg yno yw’r castell yng nghanol y coed.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Lleiniog |
Cyfesurynnau | 53.30204°N 4.074628°W |
Perchnogaeth | Menter Môn |
Ceir dewis da o gynefinoedd gwahanol ar y safle, gan gynnwys: coetiroedd collddail gwlyb, aeddfed ac ifanc, dolydd gwlyb, dolydd sy’n llawn o flodau gwyllt, llennyrch a rhodfeydd agored, gwrychoedd, pyllau, ac Afon Lleiniog.
Mae’r bywyd gwyllt yn amrywiol iawn, yn enwedig adar (adar cân ac adar ysglyfaethus yn benodol), mamaliaid (fel dyfrgwn, ystlumod a llygod pengrwn y dŵr), amffibiaid, ymlusgiaid, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a blodau hardd yn yr hen goetiroedd.
Mae golygfeydd o Afon Menai, arfordir y gogledd o Gaernarfon yr holl ffordd i Ben-y-Gogarth, a mynyddoedd y Carneddau ac Eryri.
Un o’r nodweddion hanesyddol gorau yw Castell Aberlleiniog, sy’n heneb gofrestredig. Castell tomen a beili yw hwn, a gafodd ei godi gan filwyr Normanaidd yn ystod blynyddoedd olaf yr 11g. Mae caer gerrig i’w gweld ar gopa’r domen, ac fe gafodd y gaer ei hatgyfnerthu yn ystod y Rhyfel Cartref (yn yr 17g) a’i hail-adeiladu wedi hynny fel ffoli.