Gwalia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Enw arall am Gymru a ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Oesoedd Canol yw Gwalia. Cymreigiad ydyw o'r gair Lladin Canoloesol Wallia, sydd yn ei dro yn ffurf Ladin ar y gair Saesneg Wales. Erbyn heddiw anaml y mae'r enw yn cael ei ddefnyddio, ond bu'n boblogaidd iawn yn y 19g.
- Erthygl am yr enw am Gymru yw hon. Gweler hefyd Gwalia (gwahaniaethu).
Ceir sawl enghraifft o'r enw ym marddoniaeth Gymraeg cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir yr enghraifft fwyaf adnabyddus, efallai, yn y gân darogan a adweinir fel 'Yr Awdl Fraith'. Roedd y gerdd honno, a dadogir ar y bardd Taliesin, ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r brudiau yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ail ran y gerdd sonnir am y Saeson yn meddiannu'r tir a'r Brythoniaid yn ffoi i'r gorllewin:
- Sarffes gadwynog, falch anhrugarog, a'i hesgyll yn eurog, o Sermania.
- Honno a oresgyn Lloegr a Ffrydyn o lan môr Llychlyn hyd Sabrina.
- Yna y bydd Brython fal carcharorion mewn braint alldudion i'r Sacsonia.
- Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant, a'u tir a gollant onid gwyllt Walia.[1]
Dyma ffynhonnell enw'r llyfr taith enwog Wild Wales ('Gwyllt Walia') gan George Borrow. Llai adnabyddus yw diwedd y gerdd, sy'n darogan buddugoliaeth y Cymry a gyrru'r Saeson yn eu holau allan o Ynys Brydain.
Yn y 19g, gyda Rhamantiaeth mewn bri, daeth 'Gwalia' yn hynod boblogaidd fel enw am Gymru a cheir enghreifftiau niferus yng ngwaith llenorion y cyfnod. Erbyn heddiw mae'r enw wedi syrthio allan o fri oherwydd y naws Fictorianaidd sy'n perthyn iddo. Ond ceiff ei ddefnyddio weithiau mew ffordd ddychanol, e.e. yn y llyfr Gwalia Deserta gan Idris Davies.