![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Gustave_Eiffel_1888_Nadar2.jpg/640px-Gustave_Eiffel_1888_Nadar2.jpg&w=640&q=50)
Gustave Eiffel
From Wikipedia, the free encyclopedia
Peiriannydd sifil a phensaer Ffrengig oedd Alexandre-Gustave Eiffel (15 Rhagfyr 1832 – 28 Rhagfyr 1923) sydd yn nodedig am ddylunio Tŵr Eiffel a saif ym Mharis.
Gustave Eiffel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Alexandre Gustave Bonickhausen dit Eiffel ![]() 15 Rhagfyr 1832 ![]() Dijon ![]() |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1923 ![]() Paris ![]() |
Man preswyl | rue Rabelais ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, pensaer, peiriannydd, flight engineer ![]() |
Swydd | arlywydd ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Langley Gold Medal, Fourneyron prize ![]() |
llofnod |
Ganed yn Dijon, Teyrnas Ffrainc, a derbyniodd ei radd o'r École Centrale des Arts et Manufactures ym 1855. Bu'n arbenigo mewn strwythurau metal, yn enwedig pontydd. Dan ei arweiniad, codwyd pont haearn yn Bordeaux ym 1858, a fe ddyluniodd y Galerie des machines, pafiliwn haearn, dur a gwydr, ar gyfer Arddangosfa Paris ym 1867. Dyluniodd hefyd gromen symudol Arsyllfa Nice a fframwaith Cerflun Rhyddid.
Dyluniodd Eiffel y tŵr haearn gyr sy'n dwyn ei enw ar gyfer yr Exposition Universelle, ffair y byd ym Mharis ym 1889. O 1889 i 1930, Tŵr Eiffel oedd y strwythur wneuthuredig uchaf yn y byd.
Adeiladodd Eiffel labordy ar gyfer arbrofion erodynameg ar gyrion Paris a gweithiodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoes y labordy i lywodraeth Ffrainc ym 1921. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.[1]