From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig o'r Eidal oedd Guarino da Verona (1374 – 14 Rhagfyr 1460) a oedd yn un o'r dyneiddwyr cyntaf yn y Dadeni Dysg.
Ganwyd yn Verona ac astudiodd yn yr Eidal ac yng Nghaergystennin (1403–08). Dychwelodd i'r Eidal gyda chasgliad o lawysgrifau Groeg, ac addysgodd yr iaith honno yn Fflorens (1410) ac yn Fenis (1414). Cyflawnodd Regulae grammaticales (1418), y gramadeg Lladin cyntaf yn y Dadeni. Wedi iddo weithio'n feistr rhethreg yn Verona, fe'i penodwyd yn diwtor i Leonello, mab Nicolò d’Este, Arglwydd Ferrara, yn 1430. Bu hefyd yn cyfieithu nifer o awduron o'r Roeg, gan gynnwys Strabo a Plutarch. Galwyd ar ei alluoedd ieithyddol yng Nghynor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438–45).[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.