![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/33/Abraham-Lincoln-battlegroup.jpg/640px-Abraham-Lincoln-battlegroup.jpg&w=640&q=50)
Grŵp brwydro cludydd awyrennau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fflyd o longau llyngesol sy'n cynnwys cludydd awyrennau—y gadlong—dan hebryngiad nifer o longau gwarchod yw grŵp brwydro cludydd awyrennau (Saesneg: carrier battle group, CVBG).[1] Yn ogystal â'r amryw o longau sy'n ffurfio llynges osgordd, mae'r cludydd awyrennau yn cynnal sawl sgwadron o awyrennau milwrol, a elwir asgell awyr y cludydd. Defnyddir grwpiau brwydro o'r fath i warchod llongau masnach neu filwrol, i gefnogi môr-filwyr wrth ymosod ar y tir o'r môr, neu fel arall i sefydlu presenoldeb y llynges mewn ardal benodol er buddiannau'r wlad, yn enwedig yn nhermau diogelwch cenedlaethol. Fel rheol, ni theithir cludydd awyrennau ar y môr heb osgordd ei grŵp brwydro.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | uned o'r llynges, awyrennu llyngesol ![]() |
---|---|
Math | fflyd o longau llyngesol ![]() |
Yn cynnwys | cludydd awyrennau ![]() |
Yn Llynges yr Unol Daleithiau, er enghraifft, gall aelodau'r grŵp brwydro gynnwys o leiaf un long ddistryw ac un ffrigad, dwy long danfor ymosodol, dwy wiblong gyda thaflegrau annel, un long ddistryw gyda thaflegrau annel, a llong i ddarparu logisteg.[2]