![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/A4240_Alexandra_Road%252C_Gorseinon_-_geograph.org.uk_-_1480632.jpg/640px-A4240_Alexandra_Road%252C_Gorseinon_-_geograph.org.uk_-_1480632.jpg&w=640&q=50)
Gorseinon
tref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Gorseinon. Fe'i lleoli ger aber Afon Llwchwr, tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Mae Gorseinon hefyd yn gymuned llywodraeth leol gyda chyngor etholedig yn y dref. Pentref bychan ydoedd tan diwedd y 19g pan dyfodd yn sgîl y diwydiannau glo a thunplat.
![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Gefeilldref/i | Ploermael ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.66°N 4.03°W ![]() |
Cod SYG | W04000964 ![]() |
Cod OS | SS585985 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
![]() | |
Mae Caerdydd 63.9 km i ffwrdd o Orseinon ac mae Llundain yn 273.5 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 7.2 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd gan ardal cyngor tref Gorseinon boblogaeth o 7,814. Fodd bynnag, diffinia Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol y DU ardal a elwir Ardal Drefol Gorseinon sy'n cynnwys yr ardaloedd mwy poblog yn ac o amgylch Gorseinon. Mae'r ardal hon yn cynnwys Gorseinon, Casllwchwr, Pentre'r Ardd a Penlle'r-gaer ac roedd iddi boblogaeth o 19,273.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/Gorseinon%2C_St_Catherine%27s_Church.jpg/320px-Gorseinon%2C_St_Catherine%27s_Church.jpg)