From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gorsaf reilffordd Euston, a elwir hefyd yn Euston Llundain, yn derfynfa reilffordd ym Mwrdeistref Camden yn Llundain, Lloegr. Mae'r orsaf yn derfynfa ddeheuol Reilffordd Arfordir y Gorllewin ac fe'i rheolir gan Network Rail. Defnyddir Euston gan gwmnïau First ScotRail, London Midland, London Overground, a Virgin Trains, ac yr orsaf danddaearol gan drenau'r Victoria Line a'r Northern Line[1]
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf pengaead |
---|---|
Enwyd ar ôl | Euston Hall |
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Agoriad swyddogol | 20 Gorffennaf 1837 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | London station group |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5284°N 0.1331°W |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 18 |
Côd yr orsaf | EUS |
Rheolir gan | Network Rail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Agorwyd yr orsaf gan y Rheilffordd Llundain a Birmingham ar 20 Gorffennaf, 1837. Cynlluniwyd to'r orsaf gan Robert Stephenson. Adeiladwyd Bwa Euston, ar arddull Dorig erbyn Mai 1838. Dymchwelyd y Bwa yn ystod proses o ailadeiladu'r orsaf rhwng 1961 a 1962[2]. Mae ymgyrch i'w ailadeiladu[3]. Estynnwyd yr orsaf ym 1873 ac eto ym 1892. Ailadeiladwyd yr orsaf yn llwyr yn rhan o drydanu'r Rheilffordd Arfordir y Gorllewin rhwng 1963 a 1968[2].
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.