![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Emperor_Traianus_Decius_%2528Mary_Harrsch%2529.jpg/640px-Emperor_Traianus_Decius_%2528Mary_Harrsch%2529.jpg&w=640&q=50)
Gordyndra
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gordyndra (Saesneg: anxiety) yn stâd o densiwn mewnol yn y corff, sy'n aml yn cynnwys ymarweddiad nerfus gan y person, megis cerdded yn ôl ag ymlaen, afiechydon somatig, cnoi ewinedd, cen gwallt neu'n meddwl am rywbeth drosodd a throsodd.[1] Dyma'r teimlad o ofnadwyaeth fod rhywbeth erchyll fel marwolaeth ar ddigwydd.[2]
Delwedd:Edvard Munch - Anxiety - Google Art Project.jpg, Los Angeles, California. Lockheed Employment. A worried applicant waiting to be interviewed - NARA - 532210.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | emosiwn negyddol, symptom, symptom neu arwydd ![]() |
---|---|
Math | afiechyd meddwl ![]() |
Symptomau | Chwimguriad y galon, cyfog, chwydu, fertigo, amhersonoliaeth, colli cyswllt â’r amgylchedd, derealization ![]() |
Rhan o | termau seicoleg ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Emperor_Traianus_Decius_%28Mary_Harrsch%29.jpg/320px-Emperor_Traianus_Decius_%28Mary_Harrsch%29.jpg)
Mae gordyndra'n wahanol i ofn, sydd wedi'i seilio ar rywbeth real neu beryglus. Ond mae'n seiliedig ar adwaith go-iawn i fygythiad gwirioneddol.[3] Mae gordyndra, felly'n cynnwys elfen o ofn, poeni ac ansicrwydd. Fel arfer mae'r rhain yn crynhoi mewn modd di-ffocws, cyffredinol i ryw sefyllfa arbennig a bygythiol.[4] Ymhlith yr effeithiadau a gaiff ar y corff mae: blinder corfforol a meddyliol, methu a chanolbwyntio, a theniswn yn y cyhyrau. Nid yw'n cael ei ystyried fel ymarweddiad naturiol a phan fo'n datblygu i'r eithaf, gall greu problemau seicolegol.[5]