ffilm ddrama am gerddoriaeth gan Herbert Ross a gyhoeddwyd yn 1969 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Goodbye Mr Chips yn ffilm gerdd Americanaidd o 1969 a gyfarwyddwyd gan Herbert Ross. Mae'r sgript sgrin gan Terence Rattigan yn seiliedig ar nofel 1934 James Hilton, Goodbye, Mr Chips, a addaswyd gyntaf ar gyfer y sgrin ym 1939.[1]
Cyfarwyddwr | Arthur P. Jacobs |
---|---|
Cynhyrchydd | Herbert Ross |
Ysgrifennwr | Terence Rattigan (Seiliedig ar Nofel (1934) Goodbye, Mr Chips, gan James Hilton) |
Serennu | Peter O'Toole Petula Clark Michael Redgrave Siân Phillips Alison Leggatt |
Cerddoriaeth | Leslie Bricusse (caneuon) John Williams (sgôr wrth gefn) |
Sinematograffeg | Oswald Morris |
Golygydd | Ralph Kemplen |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | APJAC Productions |
Dosbarthydd | Metro-Goldwyn-Mayer (US) David Ortan (UK) |
Dyddiad rhyddhau | 5 Tachwedd 1969 |
Amser rhedeg | 152 munud |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Yn Lloegr yn y 1920au, mae Arthur Chipping yn athro sefydledig yn Ysgol Brookfield. Mae'n athro Lladin sych, nad yw'n hoff o'i ddisgyblion, sy'n ei weld yn athro sy'n ddiflas ac yn ei alw'n "Ditchy," yn fyr am ditch (hy mae mor ddiflas â dŵr ffos). Mae Chips yn cwrdd â Katherine Bridges, cantores neuadd gerddoriaeth, yn ystafell fwyta Gwesty'r Savoy yn Llundain ar drothwy ei wyliau haf. Yn anfodlon ar ei gyrfa ac wedi cael llond bol ar ei bywyd serch, mae'n hwylio ar fordaith i Fôr y Canoldir ac yn cael ei haduno â Chips ar hap yn Pompeii. O weld enaid unig, tebyg i'w un hi, mae hi'n trefnu noson yn y theatr ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Loegr, ac mae'r ddau yn cael eu denu at ei gilydd. Pan fydd Chips yn cyrraedd Brookfield ar gyfer tymor yr hydref, mae gyda'i wraig newydd ar ei fraich, er mawr sioc i'r staff a hyfrydwch i'r disgyblion, sy'n gweld swyn Mrs Chips yn anorchfygol.[2]
Mae ei ffrind agos, Ursula Mossbank, yn helpu Katherine i rwystro cynllun yr Arglwydd Sutterwick i amddifadu’r ysgol o waddol ariannol hael oherwydd ei chefndir yn y theatr. Ond mae ei chefndir yn amddifadu Chips o’i freuddwyd hirhoedlog o gael ei godi’n brifathro ym 1939. Mae ymroddiad y cwpl i'w gilydd yn goresgyn yr holl rwystrau sy'n bygwth eu priodas, sy'n para am gyfnod o 20 mlynedd gyda'i gilydd, hyd i Katherine gael ei lladd. Mae Katherine yn cael ei lladd ym 1944 gan fom hedfan V-1 o'r Almaen wrth iddi ddifyrru'r milwyr mewn canolfan Llu Awyr Frenhinol leol. Yn rhy hwyr i'w wraig rannu yn ei hapusrwydd, dyrchafwyd Chips yn brifathro Brookfield yr un diwrnod. Mae Chips byw gweddill ei flynyddoedd yn yr ysgol, bellach fel un annwyl i'w ddisgyblion, ac yn cael ei gysuro gan ei atgofion hapus.[3]
Roedd drafft o addasiad cerddorol o Goodbye, Mr. Chips ar ffeil yn adran sgriptiau MGM ers 1951.[4] Ym 1964, gyda Julie Andrews newydd gael llwyddiant gyda Mary Poppins, cyhoeddodd cylchgronau masnach y byddai'n seren gyferbyn â Rex Harrison, gyda Vincente Minnelli wedi'i rhestru fel cyfarwyddwr, ond ni ddaeth dim o'r prosiect. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd y prosiect wedi ei hatgyfodi ond efo nifer o broblemau cyn gynhyrchu, gan gynnwys sawl newid wrth gastio'r rolau arweiniol. Yn gyntaf, arwyddwyd Richard Burton a Samantha Eggar. Yna disodlodd Lee Remick Eggar.[5] Wedi i Gower Champion, a oedd wedi disodli Minnelli fel cyfarwyddwr, gweld lluniau o Petula Clark yn Finian's Rainbow (1968), cafodd gwared a Remick a rhoi Clark yn ei lle. Gwnaeth Remick erlyn MGM am iawndal.[6] Doedd Burton dim yn hapus chwarae gyferbyn â "chanwr pop," a daeth Peter O'Toole yn ei le. Ymddiswyddodd Champion hefyd yn y pen draw [7] a daeth y ffilm yn blas cyntaf y coreograffydd Herbert Ross o gyfarwyddo.[8]
Cafodd llawer o'r golygfeydd eu ffilmio ar leoliad yn yr Eidal. Saethwyd golygfeydd yn Campania, Capaccio, Napoli, Paestum, Pompeii, a Positano. Gwasanaethodd 59 Strand-on-the-Green, Chiswick fel cartref Katherine, a’r Salisbury, bar poblogaidd yn ardal theatr y West End, oedd y lleoliad ar gyfer golygfa lle rhannodd Chips a Katherine ddiod ar ôl perfformiad o Medea. Defnyddiwyd Ysgol Sherborne yn Dorset fel Ysgol Brookfield, a ffilmiwyd golygfeydd yn nhref Sherborne.
Mae sgrin lun Terence Rattigan yn wyriad mawr oddi wrth blot syml nofel Hilton. Symudwyd cyfnod amser y stori wreiddiol ymlaen sawl degawd, bellach yn cychwyn yn y 1920au, gan barhau trwy'r Ail Ryfel Byd, a dod i ben ddiwedd y 1960au. Hefyd, nid yw'n dangos dyfodiad cyntaf Chipping i Ysgol Brookfield, ond mae'n dechrau gydag ef eisoes yn aelod sefydledig o'r staff addysgu. Yn ogystal, mae cymeriad Katherine Bridges wedi cael ei drawsnewid i gantores neuadd gerddoriaeth. Yn y ffilm gynharach yn 1939, fel yn y nofel, mae Katherine yn marw wrth eni plentyn, ar ôl priodas lawer byrrach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.