Golan, Gwynedd

pentrefan yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Golan, Gwynedd

Pentref gwledig bychan yng nghymuned Dolbenmaen, Eifionydd, Gwynedd, yw Golan[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ger pentref Dolbenmaen ar y lôn i Lanfihangel-y-pennant, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthmadog. Mae lôn yn dringo o'r pentref i Lyn Cwmystradllyn, wrth droed Moel Hebog yn Eryri.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Golan
Thumb
Mathpentrefan 
Daearyddiaeth
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau52.9594°N 4.1972°W 
Cod OSSH525425 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Thumb
Cau

Mae'n cymryd ei enw o'r capel lleol, a enwir yn ei dro ar ôl dinas Golan ym Mhalesteina, un o chwech Dinas Noddfa'r Hen Destament.

Hanner milltir i'r dwyrain o Golan ceir plasdy hynafol Clenennau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Thumb
Capel ar gwr Golan. Mynydd Graig Goch yw'r bryn uwch ben y capel; saif Craig Cwm Silyn i'r dde.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.