![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4e/North_Northamptonshire_UK_locator_map.svg/langcy-640px-North_Northamptonshire_UK_locator_map.svg.png&w=640&q=50)
Gogledd Swydd Northampton
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Gogledd Swydd Northampton (Saesneg: North Northamptonshire).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr ![]() |
---|---|
Prifddinas | Corby ![]() |
Poblogaeth | 363,408 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Northampton (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.45°N 0.6°W ![]() |
Cod SYG | E06000061 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of North Northamptonshire Council ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 986 km², gyda 350,448 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020.[1] Mae'n ffinio â Gorllewin Swydd Northampton i'r de-orllewin, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerlŷr i'r gorllewin, Swydd Rydychen i'r de-orllewin, Rutland i'r gogledd, Swydd Gaergrawnt i'r dwyrain, Swydd Bedford i'r de-ddwyrain, a Swydd Buckingham i'r de.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4e/North_Northamptonshire_UK_locator_map.svg/640px-North_Northamptonshire_UK_locator_map.svg.png)
Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2021[2] pan unwyd y pedair ardal an-fetropolitan Ardal Dwyrain Swydd Northampton, Bwrdeistref Corby, Bwrdeistref Kettering a Bwrdeistref Wellingborough, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Northampton.
Mae ei phencadlys yn nhref Kettering. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Burton Latimer, Corby, Desborough, Higham Ferrers, Irthlingborough, Kettering, Oundle, Raunds, Rothwell, Thrapston a Wellingborough.