![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/35/God_Defend_New_Zealand_manuscript_cropped.jpg/640px-God_Defend_New_Zealand_manuscript_cropped.jpg&w=640&q=50)
God Defend New Zealand
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o ddwy anthem genedlaethol Seland Newydd yw God Defend New Zealand ("Amddiffyned Duw Seland Newydd"). God Save the Queen yw'r llall.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | anthem genedlaethol ![]() |
---|---|
Gwlad | Seland Newydd ![]() |
Iaith | Saesneg Newydd Seland, Maori ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1870s ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1977 ![]() |
Genre | cerdd ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Gwladwriaeth | Seland Newydd ![]() |
Cyfansoddwr | John Joseph Woods ![]() |
![]() |
Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg yn yr 1870au gan Thomas Bracken (1843–1898), bardd a gwleidydd o Dunedin.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddarparu alaw iddo ym 1876. Enillwyd honno gan y cerddor John Joseph Woods (1849–1934). Ysgrifennwyd fersiwn â geiriau o iaith Maori gan Thomas Henry Smith (1824–1907) ym 1878. Yn y blynyddoedd i ddod daeth y gân yn fwyfwy poblogaidd. Erbyn y 1970au roedd mudiad i wneud God Defend New Zealand yn anthem genedlaethol y wlad yn lle God Save the Queen. Yn y diwedd, ym 1977, rhoddwyd staws anthem genedlaethol i'r ddau ohonyn nhw ar y cyd. Ers diwedd y 1990au, yr arfer arferol wrth berfformio God Defend New Zealand yn gyhoeddus yw perfformio pennill cyntaf ddwywaith, yn gyntaf ym Maori ac wedi hynny yn Saesneg.