chwarewr rygbi'r unded From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Glen Webbe (ganwyd 21 Ionawr 1962) yn gyn-chwaraewr rhyngwladol rygbi'r undeb Cymru. Roedd yn chwarae yn safle asgellwr ac ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru, pan gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Tonga ar 12 Mehefin 1986 (y chwaraewr cyntaf oedd Mark Brown, Newport Flanker yn gynharach y flwyddyn honno [1]).
Chwaraeodd Webbe ei rygbi clwb i Glwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1987. [2] Sgoriodd hat-tric yn y gêm yn erbyn Tonga.[1] (noder camgymeriad bod erthygl yn y Western Mail yn dweud mai Ffiji oedd y gwrthwynebwyr[2]).
Cafodd Webbe 10 gap i Gymru yn ystod ei yrfa.[1] Ef oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio hat-tric yng ngemau Cwpan y Byd.[3]
Ymddangosodd dros dîm Pen-y-bont 404 gwaith gan sgorio 250 cais.[3]
Magwyd ef yn Nhrelái, maestref ar ochr orllewinnol Caerdydd gan fynychu Ysgol Gynradd Herbert Thompson ac Ysgol Uwchradd Glan Ely. Roedd ei rieni wedi ymfudo i Gaerdydd o ynys St Kitts yn y Caribî.
Ei uchelgais oedd chwarae i Gaerdydd ond awgrymwyd iddo bod Caerdydd yn llawn "clîcs" ac y byddai'n well iddo ymgeisio am dîm Pen-y-bont.[2]
Dioddefodd peth hiliaeth yn ei erbyn fel chwaraewr rygbi. Unwaith bu i un o'r dorf mewn gêm Pen-y-bont yn erbyn Clwb Rygbi Maesteg daflu banana ato ar y cae fel sen. Cododd Webb y banana, cymryd brathiad ohono a'i daflu nôl at y person.[3]
Mae'n gyfaill agos i Gareth Thomas a bu'n ddigon agos iddo fel cyfaill fel i Thomas gyfaddef ei fod yn hoyw wrtho cyn gwneud hynny'n gyhoeddus i eraill.[2]
Ymddangosodd hefyd fel cystadleuydd yn 2il gyfres y Gladiators Show Teledu Prydeinig. Cafodd ei ddileu yn y rownd gyntaf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.