![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/Ukraine-Pravoberezzhya.png/640px-Ukraine-Pravoberezzhya.png&w=640&q=50)
Glan Dde Wcráin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth hanesyddol yn Wcráin oedd Glan Dde Wcráin (Wcreineg: Правобережна Україна trawslythreniad: Pravoberezhna Ukrayina, Rwseg: Правобережная Украина Pravoberezhnaya Ukraina, Pwyleg: Pravoberezhnaya Ukraina) a leolwyd i orllewin canol Afon Dnieper. Ffiniodd â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (yn ddiweddarach Ymerodraeth Rwsia) i'r gogledd a'r gorllewin, Sich Zaporizhzhia i'r de-ddwyrain, Yedisan a Moldafia (dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd) i'r de-orllewin, a Glan Chwith Wcráin ar ochr draw'r Dnieper i'r dwyrain. Bu ei diriogaeth yn cyfateb i oblastau Volyn, Rivne, Zhytomyr, Vinnytsia a Kirovohrad, gorllewin Oblast Kyiv a glan orllewinol dinas Kyiv, a rhannau o oblastau Cherkasy a Ternopil yn Wcráin heddiw.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() Map o Lan Dde Wcráin (melyn) o fewn ffiniau presennol Wcráin (gwyn). | |
Math | Ukrainian historical regions ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhanbarth y Dnieper (Wcráin) ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Dnieper ![]() |
Cau