Gigafactory Tecsas
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gigafactory Texas (a elwir hefyd yn Giga Texas, Giga Austin, neu Gigafactory 5) yn fan gweithgynhyrchu modurol yn Austin, Texas a adeiladwyd gan gwmni Tesla, Inc. Dechreuodd y gwaith adeiladu yng Ngorffennaf 2020,[1] dechreuwyd cynhyrchu ceir Model Y cyn diwedd 2021,[2] a danfonwyd cerbydau a adeiladwyd yn y ffatri i gychwyn mewn parti agoriadol o’r enw “Cyber Rodeo” a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2022.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ffatri |
---|---|
Gwlad | UDA |
Perchennog | Tesla |
Sylfaenydd | Tesla |
Cynnyrch | Tesla Semi, Tesla Model 3, Tesla Model Y, Tesla Cybertruck |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Travis County |
Gwefan | https://www.tesla.com/giga-texas |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae’r ffatri’n cynhyrchu ceir Model Y ar gyfer Dwyrain yr Unol Daleithiau a’r bwriad hefyd yw bod yn brif ffatri’r Cybertruck.[4][5][6][7] Mae hefyd yn gwasanaethu fel safle pencadlys corfforaethol Tesla.[8] Cyfloga'r cwmni dros 20,000 o bobl yn y ffatri a chyn hir disgwylir y cyflogir 60,000 o staff wrth i nifer y ceir a gynhyrchir gynyddu. Dyma ail ffatri fwyaf y wlad yn ôl maint yn ogystal â'r ail adeilad mwyaf yn y byd yn ôl cyfaint ar ôl Ffatri Boeing Everett.[9]