![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a2/M%25C3%25A9li%25C3%25A8s_portrait_%2528cropped%2529.png/640px-M%25C3%25A9li%25C3%25A8s_portrait_%2528cropped%2529.png&w=640&q=50)
Georges Méliès
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Mharis yn 1861 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Lledrithiwr, actor a chyfarwyddwr ffilm o Ffrainc oedd Marie-Georges-Jean Méliès (8 Rhagfyr 1861 - 21 Ionawr 1938). Yng nghyfnod cynharaf y sinema cyflwynodd lawer o dechnegau a datblygiadau naratif newydd i ffilmiau.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Georges Méliès | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1861 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 21 Ionawr 1938 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, animeiddiwr, golygydd ffilm, sgriptiwr, dewin, gwneuthurwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sinematograffydd, actor ffilm, drafftsmon ![]() |
Priod | Jehanne d'Alcy ![]() |
Plant | Georgette Méliès ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias ![]() |
Gwefan | http://www.melies.eu/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cau
Roedd Méliès yn adnabyddus am ddefnyddio effeithiau arbennig, gan boblogeiddio technegau fel sbleisiau amnewid, datguddiadau lluosog, ffotograffiaeth treigl amser, toddiannau, a lliw wedi'i baentio â llaw. Mae ei ffilmiau’n cynnwys Le Voyage dans la Lune ("Y daith i'r lleuad", 1902) a Voyage à travers l'Impossible ("Y daith trwy'r amhosibl", 1904), sy'n cynnwys teithiau rhyfedd, swrrealaidd yn arddull Jules Verne.[2]