Georges Méliès
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Mharis yn 1861 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Lledrithiwr, actor a chyfarwyddwr ffilm o Ffrainc oedd Marie-Georges-Jean Méliès (8 Rhagfyr 1861 - 21 Ionawr 1938). Yng nghyfnod cynharaf y sinema cyflwynodd lawer o dechnegau a datblygiadau naratif newydd i ffilmiau.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Georges Méliès | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1861 Paris |
Bu farw | 21 Ionawr 1938 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, animeiddiwr, golygydd ffilm, sgriptiwr, dewin, gwneuthurwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sinematograffydd, actor ffilm, drafftsmon |
Priod | Jehanne d'Alcy |
Plant | Georgette Méliès |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias |
Gwefan | http://www.melies.eu/ |
llofnod | |
Cau
Roedd Méliès yn adnabyddus am ddefnyddio effeithiau arbennig, gan boblogeiddio technegau fel sbleisiau amnewid, datguddiadau lluosog, ffotograffiaeth treigl amser, toddiannau, a lliw wedi'i baentio â llaw. Mae ei ffilmiau’n cynnwys Le Voyage dans la Lune ("Y daith i'r lleuad", 1902) a Voyage à travers l'Impossible ("Y daith trwy'r amhosibl", 1904), sy'n cynnwys teithiau rhyfedd, swrrealaidd yn arddull Jules Verne.[2]