![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/Wandbild_Portrait_George_Floyd_von_Eme_Street_Art_im_Mauerpark_%2528Berlin%2529.jpg/640px-Wandbild_Portrait_George_Floyd_von_Eme_Street_Art_im_Mauerpark_%2528Berlin%2529.jpg&w=640&q=50)
George Floyd
dyn du a laddwyd gan heddlu'r Unol Daleithiau / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd George Perry Floyd Jr. (14 Hydref 1973 – 25 Mai 2020) yn ddyn Affro-Americanaidd a laddwyd ar 25 Mai 2020 ym Minneapolis, Minnesota, UDA, ar ôl i Derek Chauvin, heddwas gwyn, wthio ar ei wddf am fwy na saith munud, tra bod swyddogion heddlu eraill yn arsylwi ac yn gwneud dim i atal ei farwolaeth.[1][2][3] Recordiwyd y digwyddiadau gyda ffonau symudol a'u lledaenu ar cyfryngau cymdeithasol.[4] Cafodd y pedwar heddwas dan sylw eu diswyddo drannoeth.[5]
George Floyd | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Big Floyd ![]() |
Ganwyd | George Perry Floyd Jr. ![]() 14 Hydref 1973 ![]() Fayetteville, Gogledd Carolina ![]() |
Bu farw | 25 Mai 2020 ![]() o mygu ![]() Minneapolis ![]() |
Man preswyl | St. Louis Park, Minnesota, Minneapolis ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | security guard, rapiwr, gyrrwr lori, chwaraewr pêl-fasged, actor pornograffig ![]() |
Arddull | rapio, hip hop ![]() |
Taldra | 193 centimetr ![]() |
Pwysau | 223 pwys ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Texas A&M–Kingsville Javelinas men's basketball ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5f/Wandbild_Portrait_George_Floyd_von_Eme_Street_Art_im_Mauerpark_%28Berlin%29.jpg/640px-Wandbild_Portrait_George_Floyd_von_Eme_Street_Art_im_Mauerpark_%28Berlin%29.jpg)
Mae'r Swyddfa Ymchwilio Ffederal yn cynnal ymchwiliad hawliau sifil ffederal i'r digwyddiad, ar gais Adran Heddlu Minneapolis, tra bod Swyddfa Dal Troseddol Minnesota (BCA) yn ymchwilio i weld a oes troseddau posib yn erbyn statudau Minnesota.[2]
Cymharwyd marwolaeth Floyd â marwolaeth Eric Garner yn 2014, dyn du heb arf a ailadroddodd “I can't breathe” wrth gael ei fygu gan heddweision oedd wedi ei arestio.[1] Yn sgil llofruddiaeth Floyd, esgorwyd ar brotestiadau byd-eang, gan gynnwys Protestiadau George Floyd yng Nghymru a ralïau o dan faner Black Lives Matter.
Ar 20 Ebrill 2021, cafwyd y plismon Derek Chauvin yn euog ar dri cyhuddiad - llofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r trydydd gradd a dynladdiad o’r ail radd. Daeth y rheithgor i benderfyniad unfrydol wedi deg awr o drafod dros ddeuddydd. Bydd y tri plismon arall yn mynd gerbron y llys yn Awst 2021.[6]