Gareth Ffowc Roberts
mathemategydd o Gymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gareth Ffowc Roberts (ganwyd 23 Mai 1945) yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ŵr sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[1]
Gareth Ffowc Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1945 ![]() Treffynnon ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Swydd | athro emeritws ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Cyfri'n Cewri, Mae Pawb yn Cyfrif ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ![]() |
Yn 2010 dyfarnwyd iddo'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[2] a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011, fe'i derbyniwyd i wisg wen er anrhydedd, Gorsedd y Beirdd.[2]
Mae'n gosod posau mathemategol dyddiol ar Twitter ers 2012 yn ogystal â phosau wythnosol ar Radio Cymru ers 2012 ac ar gyfer Radio Wales ers 2014.