![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/Gabriele_Wohmann.jpg/640px-Gabriele_Wohmann.jpg&w=640&q=50)
Gabriele Wohmann
cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Darmstadt yn 1932 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o'r Almaen oedd Gabriele Wohmann (née Guyot; 21 Mai 1932 - 22 Mehefin 2015) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdur storiau byrion, sgriptiwr, a chyfarwyddwr ffilm.[1][2]
Gabriele Wohmann | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Mai 1932 ![]() Darmstadt ![]() |
Bu farw | 22 Mehefin 2015 ![]() Darmstadt ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | nofelydd, awdur storiau byrion, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr ![]() |
Gwobr/au | Mainzer Stadtschreiber, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr Lenyddol Georg Mackensen, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Johann-Heinrich-Merck-Ehrung ![]() |
llofnod | |
![]() |
Fe'i ganed yn Darmstadt yn nhalaith Hesse, yr Almaen ac yno hefyd y bu farw a'i chladdu.[3][4][5][6][7][8]
Mynychodd yr ysgol breswyl Nordseepädagogium ar ynys Langeoog ar arfordir gogleddol yr Almaen. Astudiodd yn Frankfurt am Main o 1951 i 1953 ac yna gweithiodd fel athrawes yn ei chyn-ysgol yn Langeoog, mewn coleg cymunedol ac mewn ysgol fusnes. Ym 1953 priododd Reiner Wohmann, cyn byw fel awdur ar ei liwt ei hun yn Darmstadt o 1956, lle bu farw.[9] [10]
Mynychodd gyfarfodydd y Grŵp 47 a bu'n aelod o Academi Gelf Berlin ers 1975, ac Academi Iaith a Llenyddiaeth yr Almaen yn Darmstadt ers 1980. Bu hefyd yn aelod o Ganolfan PEN Gweriniaeth Ffederal yr Almaen o 1960 ymlaen. i 1988.