Gabriel García Márquez
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel José de la Concordia García Márquez, yn ysgrifennu fel Gabriel García Márquez (ganed 6 Mawrth 1927 – 17 Ebrill 2014). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20g yn yr iaith Sbaeneg.
Gabriel García Márquez | |
---|---|
Ganwyd | Gabriel José de la Concordia García Márquez 6 Mawrth 1927 Aracataca |
Bu farw | 17 Ebrill 2014 o lymffoma Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Colombia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, awdur storiau byrion, newyddiadurwr, dramodydd, ysgrifennwr, cyhoeddwr, bardd-gyfreithiwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, rhyddieithwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Adnabyddus am | One Hundred Years of Solitude, The Autumn of the Patriarch, Love in the Time of Cholera, Chronicle of a Death Foretold, The Story of a Shipwrecked Sailor, No One Writes to the Colonel |
Arddull | nofel |
Prif ddylanwad | William Faulkner, Virginia Woolf |
Mudiad | realaeth hudol |
Priod | Mercedes Barcha |
Plant | Rodrigo García Márquez |
Gwobr/au | Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Gwobr Rómulo Gallegos, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Lenyddol Nobel, Premio Nacional de Periodismo Simón Bolívar, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral, Urdd Anrhydedd, Commandeur de la Légion d'honneur |
llofnod | |
Ganed ef yn Aracataca, yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio García a Luisa Santiaga Márquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1982[1].
Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo.[2] Mae García Márquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr â sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.
Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr Cien años de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd) fel "y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers Don Quijote" (gan Miguel de Cervantes, 1547–1616).
Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'.[3]