pê-droed 5 bob ochr dan do From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae ffwtsal[1][2][3] yn fath o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar lain yr un maint â chwrt pêl-law ac sydd fel rheol o dan do ac ar lawr caled. Mae'n debyg i gêm pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.
Daw'r enw futsal ( Saesneg: [fʊtsal]) fel gair cyfansawdd o'r Portiwgaleg futbol de salão[lower-alpha 1] a Sbaeneg fútbol sala[lower-alpha 2] (neu fútbol de salón) sy'n golygu "pêl-droed dan do".
Dyfeisiwyd ffwtsal yn strydoedd Montevideo yn y 1930au yn dilyn llwyddiant Wrwgwái yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Roedd Juan Carlos Ceriani, a oedd yn athro, a oedd am addasu pêl-droed ar gyfer chwarae dan do mewn clybiau YMCA. Yn y degawdau dilynol, ymledodd y gêm i weddill America Ladin ac yna i Ewrop.
Ym 1989, cynhaliwyd pencampwriaeth cyntaf y byd gan FIFA, ac ers 1992 cynhaliwyd pencampwriaethau'r byd bob pedair blynedd. Yn ogystal, ceir cynghreiriau proffesiynol mewn gwahanol fannau yn y byd, gan gynnwys Sbaen a'r Eidal.
Fel arfer mae ffwtsal yn cael ei chwarae dan do ar gwrt neu faes sydd yr un maint â pêl-law. Lleiafswm y maint yw 25m × 16m, mwyafswm yw 42m × 25m. Os yw'r bêl yn mynd allan o chwarae, mae'r gêm yn ail-dechrau gyda chic ail-gychwyn o'r ochr. Nid oes rheol cam sefyll. Mae maint y gôl yr un maint â gôl mewn gêm pêl-law.
Mae'r bêl a ddefnyddir yn ffwtsal yn bêl arbennig i'r gêm nad sydd yn bownsio cymaint â phêl bêl-droed arferol. Mae'r bêl yn pwyso'r un fath â phêl pêl-droed rheolaidd, ond mae ganddo bêl fewnol feddalach sy'n cynyddu rheolaeth y bêl.
Mae tîm ffwtsal yn cynnwys un gôl-geidwad a phedwar chwaraewr maes. Ceir dwy hanner i bob gêm, sy'n para 20 munud yr un gydag egwyl o 15 munud.
Mae ffwtsal yn gêm gymharol newydd i Gymru (a Phrydain). Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm ffwtsal genedlaethol. Enillodd y tîm Gwpan gyntaf Ffwtsal Gwledydd Prydain ac Iwerddon ('Home Nations') yn 2016.[4]
Bu gêm gyntaf tîm ffwtsal cenedelaethol Cymru yn erbyn Andorra ar 2 Medi 2012. Yn anffodus collodd Cymru 2-1.
Ceir hefyd Cwpan Ffwtsal CBDC. Enillwyd y Gwpan gyntaf yn 2011 gan dîm ffwtsal C.P.D. Y Seintiau Newydd[5] Er hynny mae timau Prifysgol Caerdydd, C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Wrecsam wedi ennill y gwpan.
Tîm ffwtsal Prifysgol Caerdydd oedd unig gynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair Ffwtsal UEFA a gynhaliwyd yn 2018-19.[6]
Pencampwriaeth Ffwtsal y Byd (Cwpan y Byd Ffwtsal) yw'r bencampwriaeth tîm pwysicaf i unrhyw dîm cenedlaethol. Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1980 ac yna yn 1992 ac wedi hynny, pob pedair mlynedd.
Cwpan y Byd | Gwlad Cynnal | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|---|
CyB Ffwstal Dynion 1989 | Yr Iseldiroedd | Brasil | Yr Iseldiroedd | UDA |
CyB Ffwtsal Dynion 1992 | Hong Cong | Brasil | UDA | Sbaen |
CyB Ffwtsal Dynion 1996 | Sbaen | Brasil | Sbaen | Rwsia |
CyB Ffwtsal Dynion 2000 | Gwatemala | Sbaen | Brasil | Portiwgal |
CyB Ffwtsal Dynion 2004 | Taiwan | Sbaen | Yr Eidal | Brasil |
CyB Ffwtsal Dynion 2008 | Brasil | Brasil | Sbaen | Yr Eidal |
CyB Ffwtsal Dynion 2012 | Gwlad Tai | Brasil | Sbaen | Yr Eidal |
CyB Ffwtsal Dynion 2016 | Colombia | Yr Ariannin | Rwsia | Iran |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.