For the Boys
ffilm ddrama am gerddoriaeth gan Mark Rydell a gyhoeddwyd yn 1991 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm gomedi / drama / gerddorol gan Mark Rydell sy'n serennu Bette Midler a James Caan ydy For the Boys ("Am y Bachgen [Milwyr]") (1991). Ceir ynddi hanes Dixie Leonard, actores a chantores o'r 1940au sy'n partneru gyda Eddie Sparks, perfformiwr enwog, i ddiddori'r milwyr. Yn dilyn rhyddhau'r ffilm, enwebwyd Bette Midler am Wobr yr Academi am yr Actores Gorau. Ymhlith y caneuon y mae: "Come Rain or Come Shine", "Baby, It's Cold Outside" gan Frank Loesser, "P.S. I Love You", "I Remember You", "Every Road Leads Back To You" ac "In My Life". Sgwennwyd nifer o'r geiriau gan Johnny Mercer.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 22 Tachwedd 1991, 6 Chwefror 1992 |
Genre | comedi ramantus, drama-gomedi, ffilm gerdd, ffilm ddrama |
Hyd | 138 munud |
Cyfarwyddwr | Mark Rydell |
Cynhyrchydd/wyr | Bonnie Bruckheimer |
Cyfansoddwr | Dave Grusin |
Dosbarthydd | 20th Century Fox, Netflix, Disney+ |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Stephen Goldblatt |
Y prif actorion yn y ffilm hon yw James Caan, Bette Midler, Billy Bob Thornton, Bud Yorkin, Xander Berkeley, George Segal, Patrick O'Neal, Norman Fell, Arye Gross, Robert Clotworthy, Brandon Call, Jack Sheldon, Rosemary Murphy, Maggie Wagner, Richard Portnow, Tony Pierce a Walter C. Miller. Mae'r ffilm For The Boys yn 138 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw.
Fel y nodwyd, cyhoeddwyd y ffilm yn 1991. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oedd The Silence of the Lambs sef Jonathan Demme ffilm Americanaidd gan a oedd yn serennu’r Cymro Anthony Hopkins a’r actores Jodie Foster. Hyd at 2022 roedd o leiaf 66,300 o ffilmiau Saesneg wedi gweld golau dydd. Stephen Goldblatt oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Gerald B. Greenberg sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.